Ar ddiwrnod y ffair flynyddol enwog, mae dinas Faldum yn cael ymwelydd annisgwyl.
Mae crwydryn yn cynnig rhoi dymuniad unrhyw un sy’n gofyn. Cyn bo hir, mae’r ddinas wedi ei gweddnewid.
Mae plastai crand wedi cymryd lle cytiau mwd, ac mae cardotwyr yn teithio mewn steil yn eu coets a cheffyl. Ac mae un dyn yn dymuno troi mewn i fynydd.
Wedi ei ysgrifennu a’i berfformio gan Toby Thompson – cyn-enillydd slam farddoniaeth Glastonbury – mae I Wish I Was A Mountain yn defnyddio odl, cerddoriaeth fyw a phinsiaid o athroniaeth fetaffisegol i ail-greu stori dylwyth teg glasurol Hermann Hesse mewn modd beiddgar.

I Wish I Was A Mountain
Jack Offord
I Wish I Was A Mountain
Jack Offord
I Wish I Was A Mountain
Jack Offord
I Wish I Was A Mountain
Jack Offord
I Wish I Was A Mountain
Jack Offord
I Wish I Was A Mountain
Jack Offord“Stunning... A profound show that reveals Thompson to be a star in the making”
Oes arnon ni wir angen y pethau mae arnon ni eu hangen? Beth mae mynyddoedd yn ei deimlo? Sut dechreuodd amser?
Gofynnir yn garedig i oedolion adael yr holl atebion i’r cwestiynau hyn wrth y drws. Blant, dewch fel ry’ch chi.
Crewyd yn the egg Incubator. Cyd-gynhyrchwyd gan the egg a’r Travelling Light Theatre Company. Cyflwynir ar daith yng Nghymru gan Theatr Iolo.
Comisiynwyd ar y cyd gan Imaginate a Brighton Dome. Noddwyd gan The Tulip Partnership a Swainswick Explorers.
Canllaw oed: 6+ (dim plant dan 2 oed)
Hyd y perfformiad: tua 45 munud (dim egwyl)
Bydd y perfformiad ar 29 Hydref, 7pm ac ar 30 Hydref, 11am yn cael ei gyfieithu’n greadigol i mewn i Iaith Arwyddion Prydain gan y bardd byddar Donna Williams.
Cynigion aelodau
Gostyngiad o £2.
Cynigion yn seiliedig ar dyraniadau ac argaeledd.
Gweithdy ‘I Wish I Was…’
I Feddylwyr Mawr Bach Ym Mhob man…
Dyma weithdy ar ôl y sioe sy’n archwilio byd athronyddol I Wish I Was a Mountain.
Bydd y gweithdy hwylus, addfwyn yma’n rhoi cyfle i chi a’ch plenty sgwrsio gyda Toby am y stori a dysgu ac ymarfer yr ymarferion meddylgarwch sydd wedi dylanwadu ar y sioe. Yn cynnig sawl ffordd i wella’ch lles meddyliol, byddwch yn archwilio’r cwestiynau mawr mewn bywyd, yn cynnwys rhai sy’n codi yn y sioe - Pwy ydw i? Ai fi yw fy llais? Ai fi yw fy enw?
Cynhwysedd: 30 o bobl
Hyd: 40 munud
Pris: Am ddim i bobl sydd â thocynnau i’r sioe, ond rhaid archebu lle o flaen llaw.
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Perfformiadau Ymlaciedig