If You Don’t Noel Me By Now: Noson yng nghwmni Noel Sullivan

Bar Cabaret ffresh

19 Ebrill 2019

Llwytho…
Gwerthu Allan

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Add to Calendar {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London If You Don’t Noel Me By Now: Noson yng nghwmni Noel Sullivan {{::on_sale_date.label}} Bar Cabaret ffresh MM/DD/YYYY 15 event-459

If You Don’t Noel Me By Now: Noson yng nghwmni Noel Sullivan

19 Ebrill 2019

Bar Cabaret ffresh

If You Don’t Noel Me By Now yw sioe gabaret unigol gyntaf Noel Sullivan, y cantor a’r actor o Gaerdydd.

Mae Noel Sullivan yn fwyaf enwog am fod yn rhan o’r grŵp pop llwyddiannus, Hear’say. Ers hynny, cafodd yrfa lwyddiannus fel seren sioeau cerdd, gan chwarae prif rannau yn We Will Rock You, Dirty Rotten Scoundrels, Rock of Ages a Priscilla Queen of the Desert. Yn fwy diweddar, ymddangosodd ym mherfformiad cyntaf erioed Tiger Bay the Musical yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Nick Barstow, y cyfarwyddwr cerdd enwog, sy’n gyfrifol am y trefniannau ac ef fydd yn cyfeilio ar y piano. Bydd y sioe newydd hon yn gyfle i glywed y gerddoriaeth sydd wedi ysbrydoli Noel, gan gyfuno arddulliau’r sioeau cerdd, cerddoriaeth bop a chanu’r enaid.

Ymunwch â Noel mewn awyrgylch clyd i wrando ar alawon prydferth a sawl hanesyn doniol.

“Noel could charm the knickers off a nun”

Mrs Dungee, Athrawes Addysg Grefyddol, Blwyddyn 8

Canllaw Oed: 16+

Cynigion

Aelodau Addewid: gostyngiad o £3.

Cynigion cyntaf i’r felin: ychwanegwch botel o win am £10, neu dewiswch 2 blât bychan ac unai gwydriad o win, peint neu ddiod ysgafn am £15

Mae’r bar a’r gegin ar agor o 6pm ymlaen ac mae’r sioe yn dechrau am 8pm.

Cyflwynir yn

Bar Cabaret ffresh