A hithau bellach wedi ennill ei phlwyf fel un o wyliau ffilm LGBTQ+ gorau’r byd, mae’r Iris Prize Festival yn eich gwahodd i noswaith o berfformiadau ‘scratch’ wrth iddi fentro o fyd ffilm i’r llwyfan.
Gan dynnu’n uniongyrchol ar ysbrydoliaeth y gymuned LGBTQ+ yng Nghymru, bydd doniau hen a newydd yn cyflwyno noswaith gyffrous o waith newydd sy’n bwriadu gwir adlewyrchu’r grŵp amrywiol hwn. Rydym yn eich gwahodd i wylio, mwynhau a chynnig adborth ynghylch sut yr hoffech weld y daith newydd hon gan Iris yn datblygu.
Canllaw oed: 14+ (yn cynnwys iaith gref)