Ar ôl ennill 55 gwobr nodedig, gan gynnwys gwobr Olivier am y Sioe Gerdd Newydd Orau, bydd ffenomen y West End, Jersey Boys, yn dychwelyd i'r Ganolfan yn Ionawr 2019.
Dyma hynt a helynt pedwar bachgen o ben tlotaf y dref sy’n cyfansoddi caneuon eu hunain gan greu sain unigryw a gwerthu 175 miliwn record yn fyd-eang.
Gyda sgôr o hen ffefrynnau sy’n cynnwys Beggin’, Can’t Take My Eyes Off You, Oh What a Night, Sherry, Walk Like a Man, Bye Bye Baby a Big Girls Don’t Cry, bydd Jersey Boys yn siŵr o godi’r galon gyda llond llwyfan o hiwmor, angerdd a cherddoriaeth.
“Fight for a ticket to see Jersey Boys”
Canllaw oed: 12+ (Dim plant dan 2 oed). Yn cynnwys iaith gref.
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 40 munud (yn cynnwys 1 egwyl)
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad 0 £10 ar 16 Ionawr. Aelodaeth
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £4. Trefnu ymweliad grŵp
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad