Mae Romeo and Juliet Matthew Bourne yn gweld dehongliad newydd, tanbaid a chyfoes o stori gariad glasurol Shakespeare. Wedi'u caethiwo yn erbyn eu hewyllys gan gymdeithas sydd eisiau eu gwahanu, mae'n rhaid i'r cariadon ifanc ddilyn eu calonnau a rhoi popeth yn y fantol i fod gyda'i gilydd.
“The most eagerly anticipated
dance show of 2019”
Yn llawn egni ifanc, bywyd a dawn nodweddiadol Matthew Bourne o adrodd stori, gwelwn dalentau dawns gorau Cymru ifanc yn ymuno â chwmni New Adventures, gyda chyfarwyddyd a choreograffi gan Matthew Bourne, dyluniad gan Lez Brotherston, goleuo gan Paule Constable, sain gan Paul Groothuis ac offeryniaeth newydd o sgôr Prokofiev gan Terry Davies, wedi'i chwarae gan Gerddorfa New Adventures.
Mae'r cynhyrchiad newydd yma o Romeo a Juliet yn ymuno â chasgliad poblogaidd New Adventures sy'n cynnwys Swan Lake, Cinderella a The Red Shoes.
“Matthew Bourne's modern day twist on a classic tale is wonderfully executed”
Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed)
Cynigion i grwpiau
Grwpiau 10+ gostyngiad o £5 (Maw - Iau). Trefnu ymweliad grŵp.
DAN 26 OED
£10 (argaeledd cyfyngedig)
YSGOLION
£10 (Maw - Iau) — Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Cynigion i Aelodau
Gostyngiad o £10 ar 18 Mehefin. Aelodaeth.
Digwyddiad Dethol i Aelodau: Caiff Aelodau Addewid sydd â thocynnau ar gyfer Romeo and Juliet gan Syr Matthew Bourne 18 Mehefin, eu gwahodd i barti dethol ar ôl y sioe yng nghwmni’r cast a’r criw. Gall Aelodau Addewid ateb trwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 02920 636464 erbyn 7 Mehefin. Mae tocynnau ychwanegol ar gyfer gwesteion nad ydynt yn aelodau yn £5 y person (yn dibynnu ar argaeledd).
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.