Ar ôl taith hynod lwyddiannus yn 2018 a chyfnod o fri yn Llundain, mae Nativity! The Musical yn dod i’r Ganolfan ym mis Tachwedd.
Llawn hwyl, sbri a digon o chwerthin, mae’r chwip o sioe gerdd yma wedi’i haddasu i’r llwyfan gan Debbie Isitt, creawdwraig y ffilmiau poblogaidd.
Mae gan bob un plentyn yn yr ysgol un dymuniad Nadolig, i serennu yn nrama’r Geni, ac yn ysgol St Bernadette maen nhw’n ceisio creu fersiwn cerddorol! Yr unig drafferth yw bod yr athro Mr Madden wedi addo bod cyfarwyddwyr o Hollywood yn dod i weld y sioe er mwyn ei throi’n ffilm. Ymunwch ag ef, ei gynorthwyydd dosbarth hanner call, Mr Poppy, plant bach doniol a llond llwyfan o hud a lledrith wrth iddyn nhw drio eu gorau glas i sicrhau bod dymuniadau Nadolig pawb yn dod yn wir.





“A feel-good bonanza”
Yn serennu rhai o’ch hoff ganeuon o’r ffilmiau er mwyn i bawb ganu ynghyd, gan gynnwys Sparkle and Shine, Nazareth, One Night One Moment, She’s the Brightest Star a llwyth o ganeuon newydd, dyma sioe gerdd llawn calon ac ysbryd y Nadolig.
Archebwch nawr ac ymunwch am ychydig o ANRHEFN ym Methlehem!
Canllaw oed: 5+ (dim plant dan 2 oed)
Hyd y perfformiad: Tua 2 hwr 20 minud
Cynigion aelodau
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol. Aelodaeth.
Cynigion i grwpiau
Grwpiau 10+ gostyngiad o £5. Trefnu ymweliad grŵp.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.