Never The Bride yw Nikki Lamberton o Fryste (llais) a Catherine ‘Been’ Feeney (allweddellau a llais) o Glasgow.
Mae eu talent grai, ddilyffethair yn amlwg i bawb ac yn ddigon i gyfiawnhau’r argraff y mae’r merched wedi ei greu ar gynulleidfaoedd yn ystod cyfnod o 25 mlynedd o lwyddiant byd-eang Never the Bride.

Yn ogystal â chefnogi The Who, maent wedi ymddangos ar y llwyfan gyda Elton John, Bryan Adams, Alice Cooper a llawer, llawer mwy, ac hefyd wedi perfformio mewn cyngherddau preifat gydag enwogion megis Cher a Liza Minnelli.
Er bod fflach o ysbrydoliaeth gan Led Zepplin, Heart a Tina Turner, maent wedi dod o hyd i sain unigryw eu hun sydd yn emosiynol, ysbrydoledig, adlewyrchol ac arloesol.
Gyda chefnogwyr brwd fel Bob Harris a Roger Daltrey o The Who yn ymuno â’r llu o ffans byd-eang sydd gan Never the Bride, mae yna gefnogwr sydd â chysylltiad sy’n rhedeg yn ddyfnach na’r gweddill.
Fe wnaeth un sylw ar hap a tâp demo arwain y Fonhesig Shirley Bassey yn ôl o’i hymddeoliad i recordio cân wedi’i hysgrifennu gan y band!
Mae Never the Bride wedi cyhoeddi rhyddhad eu halbwm newydd, ‘For Better, For Worse’, yn cynnwys trac newydd Tiger Bay – teyrnged i’r Fonhesig Shirley a’i tharddiad o Tiger Bay i un o’r perfformwyr benywaidd gorau erioed.
Mae’r albwm yn cynnwys llaisgwefreiddiol Nikki a gallu anhygoel y band i gydblethu elfennau o roc, melangan a miwsig yr enaid gyda geiriau sydd yn galonnog.
Canllaw oed: 16+
Hyd y perfformiad: 1 awr 50 munud (yn cynnwys egwyl o 20 munud)
Cynigion Aelodau
Gostyngiad o £3.
Bwyd a Diod
Ychwanegwch bryd o fwyd a diod i’ch archeb am £15 yr un. Mae’r bar a’r gegin ar agor o 6pm ymlaen ac mae’r sioe yn dechrau am 8pm.