Sioe ryngweithiol fyw, lle gewch chi forio canu, yw The Greatest of Shows. Byddwch ar eich traed yn dawnsio ac yn canu gyda’r cast rhagorol i rai o’r caneuon mwyaf poblogaidd o sioeau cerdd a ffilmiau gorau’r byd.
Gyda chaneuon o The Greatest Showman, We Will Rock You, Mamma Mia, The Sound of Music, The Rocky Horror Show a Dirty Dancing, byddwch yn siŵr o gael ‘The Time of your Life’!
Felly, gwisgwch eich sgidiau dawnsio, twymwch y llais, a dod i fwynhau caneuon fel ‘Let it go’ a ‘Time Warp’ yn noson The Greatest of Shows.
Canllaw oed: 16+
Aelod Addewid: Gostyngiad o £3
Cynig cyntaf i'r felin: Ychwanegwch botelaid o win at eich tocyn am £10 ychwanegol.
Ychwanegwch swper a diod am £15 ychwanegol
Mae ein bar a chegin ar agor am 6pm, a'r sioe yn dechrau am 8pm.