Bydd Dilys Price OBE, sylfaenydd Touch Trust a deilydd record byd Guiness am awyr blymio yn rhannu ei gwybodaeth, eich awch a’i phrofiad mewn noson unigryw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mae Dilys yn gymeriad neilltuol sydd wedi trawsnewid profiadau miloedd o bobl sydd ag anableddau dwys a rhai sy’n byw gydag awtistiaeth trwy ddatblygu dull y Touch Trust.
Gyda dawn i ddiddanu a chyda hiwmor direidus, bydd y cymeriad hynod yma sy’n 80 oed, yn rhannu ei straeon o fewn awyrgylch cyfeillgar Ffresh yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Yn seiliedig ar ei Ted Talk, bydd Dilys hefyd yn rhannu'r hyn sy’n ei gyrru hi a beth sy’n ei gwneud hi’n hapus.
Cynigion cyntaf i’r felin: prynwch docyn + dau blât bach ac unai gwydriad o win, peint neu ddiod ysgafn am £40
Mae’r Bar a’r Gegin ar agor o 6pm ymlaen, ac mae’r sioe’n cychwyn am 7pm
Grwpiau 10+: Archebwch fwrdd drwy gysylltu â ni ar 029 2063 6464, a phwyso opsiwn 4.