Gŵyl gan bobl ifanc, i bobl ifanc 14–25 oed.
Am y tro cyntaf erioed, daw gŵyl gelfyddydol ieuenctid Cymru i Gaerdydd gyda ffrwydrad o berfformiadau, gigiau, arddangosfeydd a gweithdai.
Mae GŵylGrai yn rhoi stondin i’r gorau o blith celfyddydau ieuenctid heddiw. Rhown fwy o werth ar y gwreiddiol yn hytrach na’r copi, y cranclyd yn hytrach na’r cyffredin, y beiddgar yn hytrach na’r diflas.
Cerddoriaeth fyw, sioeau theatre, gosodiadau celf, darllediadau radio, barn a thrafod, creu ffilmiau, dawns, gweithdai, den ‘sgwennu, celf y corff, blogio, opera, gweithdai drama, barddoniaeth, dangos ffilmiau, ffasiwn, a llawer mwy…
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.rawffest.wales/cy/






Addas ar gyfer oedran: 14–25
Tocyn Dydd: £5
Dydd Iau 25 Ebrill, 3pm – 10.30pm
Dydd Gwener 26 & Dydd Sadwrn 27 Ebrill, 11am – 6pm
Dydd Sul 28 Ebrill, 11am – 3.30pm
Gallwch archebu i fynychu digwyddiadau unigol yn nes ymlaen (heb gost ychwanegol), ond bydd angen prynu tocyn er mwyn cael mynediad i’r digwyddiadau hyn.
Ni fyddwn yn postio tocynnau ar gyfer y digwyddiad yma. Byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau eich archeb, a bydd bandiau garddwrn ar gael i’w casglu ar y diwrnod.