Sgwrs wedi’i chadeirio gan Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru
Partneriaid: Comisiynydd Plant Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Unicef
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yw’r cytuniad hawliau dynol a gafodd ei gadarnhau’n fwyaf eang yn y byd, ac oherwydd bod y cwmni’n gweithio mor helaeth gyda phlant, mae WNO yn falch o allu cefnogi a hwyluso’r drafodaeth hon. Er mwyn cofnodi penblwydd y Confensiwn yn 30 ac eisteddiad cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru, byddwn yn archwilio’r rôl y mae pobl ifanc yn ei chwarae mewn democratiaeth, a’r camau a gymerir yng Nghymru i sicrhau bod safbwyntiau pobl ifanc yn cael eu clywed, yn unol ag Erthygl 12.
Tocynnau ar gael i’w brynu wrth y drws, yn ddibynnol ar argaeledd ac arian parod yn unig.