Dewiswch eich pecyn drwy ddefnyddio’r botymau ar waelod y dudalen; detholwch eich sioeau ac yna caiff y gostyngiad ei gymhwyso yn y basged.
Gall y Dug gael unrhyw fenyw a ddymuna, ac mae'n byw bywyd o wamalrwydd a llygredigaeth.
Mae Rigoletto, digrifwas y Dug, yn gwneud hwyl am ben tadau a gwŷr y menywod mae'r Dug yn ceisio eu hudo, sydd yna'n mynd ati i geisio dial arno. Ond mae gan Rigoletto anrhydedd ei ferch ei hun i'w warchod, ac mae digwyddiadau yn datblygu gyda goblygiadau anfwriadol.
Ysgrifennodd Verdi mai Rigoletto oedd ei opera orau, a gyda'i stori a sgôr dramatig – sy'n cynnwys yr adnabyddus La donna è mobile – mae'n hawdd gweld pam ei bod yn parhau i fod yn ffefryn bythol. Mae'r adfywiad amserol hwn o gynhyrchiad poblogaidd Opera Cenedlaethol Cymru wedi ei osod yn y Tŷ Gwyn yn ystod arlywyddiaeth Kennedy, ac mae'n gweld Mark S Doss (Tosca, Gwanwyn 2018) yn dychwelyd i'r Cwmni yn y brif ran.
Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Pecynnau Opera Cenedlaethol Cymru
3 OPERAS 10% off 4 OPERAS 15% off 5 OPERAS 20% offCanllaw oed: 8+ (Dim plant o dan 2 oed)
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr 50 munud (yn cynnwys dau egwyliau)
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £4. Yn berthnasol i seddi penodol. Trefnu ymweliad grŵp.
YSGOLION
£12.50 — yn berthnasol i seddi penodol. Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.
DAN 30 OED
£10 — yn berthnasol i seddi penodol.
DAN 16 OED
£5 — 1 tocyn plentyn gydag un oedolyn sy'n talu'n llawn.
Cynigion yn seiledig ar dyraniadau ac argaeledd.