Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

RuPaul’s Drag Race: Werq The World

19 Mai 2019

Theatr Donald Gordon

Rhaid i freninesau RuPaul’s Drag Race achub ein galaeth yn eu sioe newydd sbon, Werq The World.

Sioe yw hon wedi’i chynhyrchu gan Voss Events a chynhyrchwyr Drag Race, sef World of Wonder a VH1. Bydd y sioe’n dilyn tîm o freninesau’r gofod, gan gynnwys Asia O'Hara, Aquaria, Detox, Kameron Michaels, Naomi Smalls, Kim Chi, Monét X Change a Violet Chachki wrth iddyn nhw deithio i’r haul i achub ein cysawd rhag rhyw rym tywyll sydd â’i fryd ar achosi dinistr.

Asia O'Hara fydd yn arwain y gynulleidfa drwy’r bydysawd wrth inni weld rhyfeddodau pob planed, a chyfarfod brenhines pob un. Bydd y cynulleidfaoedd wedi'u gwefreiddio wrth i’w hoff freninesau ddod ynghyd i gyflwyno caneuon anhygoel.

Rhestr perfformwyr yn amodol i newidiadau. Nodwch, ni fydd RuPaul yn bresennol yn y digwyddiad yma.

Canllaw Oed: 16+ (yn cynnwys iaith gref a themâu sy’n addas i oedolion yn unig)

Tocynnau Arbennig Croeso a Chyfarch: Beth am fwynhau cyfarfod preifat a sgwrs gyda breninesau’r gofod cyn y sioe? Mae hyn yn cynnwys Tocyn Galaeth Arbennig a sedd yn rhesi blaen y Llong. Rhaid i’r gwesteion gyrraedd erbyn 6pm.

Hyd y Perfformiad: Tua 2 awr yn cynnwys 1 egwyl

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon