Casgliad camp o straeon am enwogion y byd showbiz a hanesion drygionus hunangofiannol. ‘Does neb yn saff. Dowch am laff. Cynnwys newydd o’r un hen geg.
Mae hon yn sioe un-dyn onest, ddrygionus ac unigryw gan un o gegau mwya’r wlad sydd wedi gweithio hefo rhai o sêr mwya’r byd.
Mae’r entrepreneur a’r diddanwr Stifyn Parri wedi serennu yn y West End ac wedi gweithio hefo rhai o enwau mwya’r diwydiant, yn sêr Hollywood, y teulu brenhinol, a fo oedd yn gyfrifol am y gusan hoyw gynta ar deledu a ymddangosodd ar y newyddion cenedlaethol!
Ar ôl llwyddiant ysgubol ei sioe ‘Cau dy geg!’ mae o’n ôl hefo casgliad newydd sbon o gyfrinache cefn llwyfan a hanesion helariws o gywilyddus ei fywyd hyd yn hyn. Di-lol, di-flewyn ar dafod a dig’wilydd.
Dychmygwch stand-up, hunangofiant a chylchgrawn clecs yn gymysg oll i gyd!
Ar Ôl y sioe
Sesiwn Holi ac Ateb a gwerthiant 'Allan â Fo!', Yr hunangofiant cynta’ dwyieithog erioed, ar gael yn fuan!
Cynigion
Cynnig bwyd a diod: Ychwanegwch bryd o fwyd a diod i’ch archeb am £15 yr un.
Perfformir yn Saesneg
Yn cynnwys iaith gref
Drysau'n agor am 6pm a'r sioe yn cychwyn am 8pm