Ymbinciwch a dewch yn llu, nos Sadwrn yw'r NOSON FAWR! Cyflwynwn y cabaret gorau, platiau o fwyd blasus a detholiad gwych o ddiodydd
Mae ein platiau bychain wedi eu cynllunio ar gyfer eu rhannu, felly lledwch y gair a dewch â’ch ffrindiau.
Yn gynwysedig yn y pris...
Mae eich tocyn £30 yn cynnwys coctel Bellini pan fyddwch yn cyrraedd, perfformiad cabaret byw anghredadwy, tri phlât bach o’n bwydlen Gymreig gyfoes, a choctel pwdin i bennu’r noson.
Perfformiadau cabaret ar y ffordd...

Alise Piebalga

Desert cocktails

Sharing Plates

Sarah Louise Young

Fish plates

Betty Rose Royal

Leroy Brito

Sharing plates

Connie Orff

Steffan Rhys Hughes
Nosweithiau Arbennig Clwb Swper Calan Gaeaf
Dewch i fwynhau fersiwn dirgel o’ch hoff nos Sadwrn am dri pherfformiad arbennig yn unig dros benwythnos Calan Gaeaf. Gyda tamaid o arswyd a thoreth o hwyl a sbri, Clwb Swper yw’r ffordd berffaith o fwynhau penwythnos fwyaf dirgel y flwyddyn. Artistiaid i’w cyhoeddi’n fuan!
1 Tachwedd - Sioe Gerdd
Ar gyfer y noson frawychus wych yma, ymunwch â ffefrynnau’r Clwb Swper – Celyn Cartwright, Jonathan Radford a Steffan Rhys Hughes am noson frawychus o theatr gerdd. Gyda’r cantorion theatr dawnus a David George Harrington ar y piano, does dim triciau dim ond danteithion heno!
11+ Caneuon o sioeau cerdd, oedolion yw'r gynulleidfa darged, does dim rhybudd penodol.
2 Tachwedd - Drag
Dros benwythnos Calan Gaeaf, beth am ddod i udo ar y lleuad gyda Connie Orff am noson arswydus o dda, yn llawn Drag gorau'r wlad, gan gynnwys MaLady Masterwort, Rhys Pieces a Victoria Scone!
Fyddi di'n siwr o floeddio "IAS!"
14+ Defnydd o iaith gref yn bosib
Hyd y perfformiad: tua 2 awr 30 munud