Mae Rachael Roberts, sydd â phrofiad eang ym meysydd canu, actio a dawnsio cyfoes, yn cymryd arni bersona Shirley Bassey fel rhan o dymor Perfformiadau i’r Chwilfrydig.
Gan seilio ei golwg a’i steil ar gyngherddau enwog y berfformwraig unigryw yn y cyfnod 1970au –1980au, aeth Rachael ati i astudio llais, symudiadau ac ystumiau Shirley Bassey fel sail i’w theyrnged dwymgalon, ac mae ei thebygrwydd rhyfeddol i’r seren wedi syfrdanu cynulleidfaoedd.
Wrth iddi berfformio rhai o ganeuon enwocaf Bassey, yn cynnwys The Girl from Tiger Bay, Diamonds are Forever, a Goldfinger, mae Rachael yn edrych ac yn swnio yr un fath yn union â’r seren ei hun.
Canllaw oed: 16+
Hyd y perfformiad: tua 1 awr 50 munud (yn cynnwys 1 egwyl)
Cynigion aelodau
Gostyngiad o £3. Aelodaeth.
Cynigion yn seiliedig ar dyraniadau ac argaeledd.
Bwyd a diod
Ychwanegwch bryd o fwyd a diod i’ch archeb am £15 yr un. Mae’r bar a’r gegin ar agor o 6pm ymlaen ac mae’r sioe yn dechrau am 8pm.