Tina May

Bar Cabaret ffresh

25 Ebrill 2019

Llwytho…
Gwerthu Allan

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Add to Calendar {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Tina May {{::on_sale_date.label}} Bar Cabaret ffresh MM/DD/YYYY 15 event-426

Tina May

25 Ebrill 2019

Bar Cabaret ffresh

Ers sefydlu ei phedwarawd cyntaf yn y nawdegau cynnar, mae Tina May wedi ennill clod o gwmpas y byd am ei gallu lleisiol rhyfeddol a’i phresenoldeb llesmeiriol ar y llwyfan.

Mae ei gwobrau niferus yn cynnwys Lleisydd Gorau, ac ar sawl achlysur, Gwobr Dewis y Beirniaid yng Ngwobrau Jazz Prydain.

Mae Tina yn awdur geiriau dawnus, yn artist jazz meistraidd ac yn ddiddanwraig ddisglair, a bydd gwylwyr ITV yn gyfarwydd â’i llais o gerddoriaeth agoriadol bachog y cyfresi poblogaidd Infidelity ac Airline.

Bydd y cerddorion yn gwybod amdani fel lleisydd hynod ddawnus, yn enwog am berfformio nid yn unig ganeuon safonol o waith Jerome Kern, Harry Warren, Duke Ellington, George ac Ira Gershwin, Richard Rodgers, Kurt Weill, Johnny Mandel, Sammy Cahn a Jimmy Van Heusen, ond deunydd hefyd gan Tony Newley, Paul Simon, a Chick Corea.

“One of the best jazz vocalists anywhere today.”

The Observer

Canllaw oed: 16+

Cynigion

Aelodau Addewid: gostyngiad o £3.

Cynigion cyntaf i’r felin: ychwanegwch botel o win am £10, neu dewiswch 2 blât bychan ac unai gwydriad o win, peint neu ddiod ysgafn am £15 

Mae’r bar a’r gegin ar agor o 6pm ymlaen ac mae’r sioe yn dechrau am 8pm.

Cyflwynir yn

Bar Cabaret ffresh