Dyma eiliad eich marwolaeth. Mae yna fotwm hudol. Ydych chi’n dileu holl hanes eich gweithgaredd ar-lein? Neu ydych chi’n ei gadw ac yn gadael y dewis i rywun arall?
Thema User Not Found yw ein hunaniaeth ddigidol ar ôl i ni farw. Bydd aelodau’r gynulleidfa yn cael ffôn clyfar a phâr o glustffonau, ac yn ymgolli yn hanes un dyn wrth iddo wynebu’r dewis o gadw neu ddileu presenoldeb ar-lein ei bartner.
Mewn perfformiad doniol, agos-atoch cawn stori am alar cyfoes sy’n procio angen pob un ohonon ni am gysylltiad.
Caiff y sioe yma ei pherfformio yng nghaffi Quantum Coffee Roasters ar Stryd Bute, Bae Caerdydd (CF10 5BN).
Bydd geirdeitlau ar gael ar gyfer pob perfformiad o User Not Found. Os hoffech ddefnyddio geirdeitlau, rhowch wybod i aelod o dîm Blaen y Tŷ cyn y perfformiad, ac fe wnawn nhw drefnu hynny i chi.
Canllaw oed: 14+ (yn cynnwys iaith gref)
Hyd: Tua awr a hanner
Cynigion
Gall Aelodau Addewid gael tocynnau am £10