Anturus. Athletaidd. Cyfareddol. Yn 2019, mae VERVE yn cyflwyno rhaglen uchelgeisiol o waith dawns newydd, beiddgar a grëwyd gan y coreograffwyr Joan Clevillé (Catalonia), Maxine Doyle (DU) a Ben Wright (DU) sydd â bri rhyngwladol ac sydd wedi ennill gwobrau, ochr yn ochr ag ail-lwyfaniad o Shutdown gan Noa Zuk ac Ohad Fishof (Israel).
Dewch i brofi noson o ddawns hynod gorfforol ac iachusol o wreiddiol, wedi’i pherfformio gan artistiaid dawns ar ddechrau eu gyrfaoedd proffesiynol. Cewch brofi statws dawns ar hyn o bryd, ac i ba gyfeiriad y gallai fynd nesaf.
Mae'r cwmni'n cynnwys tri ar ddeg o ddawnswyr eithriadol, sydd wedi'u hyfforddi mewn rhai o brif conservatories y byd. Eleni, yn ogystal â dawnswyr o'r DU, mae VERVE yn cynnwys dawnswyr o Chile, yr Eidal, Portiwgal, Singapore, ac Uruguay; gan greu cwmni dawns gwirioneddol ryngwladol. VERVE yw cwmni ôl-raddedig Ysgol Ddawns Gyfoes y Gogledd (NSCD) a chaiff ei arwain gan y Cyfarwyddwr Artistig Matthew Robinson.
“captivating, superbly energetic” The State of the Arts
Hyd y perfformiad: 1 awr 40 munud (yn cynnwys egwyl 20 munud) Canllaw oed: 11+