Y Cylch Sialc

Theatr Genedlaethol Cymru

Y Cylch Sialc

Mewn cydweithrediad â Theatrau Sir Gâr

Portland House

8 – 10 Hydref

Llwytho…
Gwerthu Allan

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Add to Calendar {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Y Cylch Sialc {{::on_sale_date.label}} Portland House MM/DD/YYYY 15 event-631

Theatr Genedlaethol Cymru

Y Cylch Sialc

Mewn cydweithrediad â Theatrau Sir Gâr

8 – 10 Hydref

Portland House

“Yn y dyddiau mwyaf gwaedlyd, mae pobl dda yn byw.”

Mae chwyldro ar droed a’r ddinas ar dân. Yn y dryswch, mae babi’n cael ei adael ar ôl.

Mae merch ifanc yn aberthu popeth er mwyn achub y plentyn. Â’r wlad dan warchae a milwyr yn eu herlid, mae hi’n benderfynol o’i warchod, doed a ddelo. Ond mewn byd llygredig, a yw cariad yn ddigon? 

Am y tro cyntaf erioed, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn troedio i fyd Bertolt Brecht gyda throsiad newydd i’r Gymraeg gan Mererid Hopwood a cherddoriaeth wreiddiol yn cael ei pherfformio’n fyw gan Gwenno. Mewn cynhyrchiad newydd trawiadol, mae’r clasur hwn o’r ugeinfed ganrif yn byrlymu â cherddoriaeth, hiwmor tywyll a chymeriadau bywiog; stori epig am wneud daioni mewn byd sy’n llawn drygioni.

Der kaukasische Kreidekreis (The Caucasian Chalk Circle)
gan Bertolt Brecht
Trosiad gan Mererid Hopwood
gyda cherddoriaeth wreiddiol fyw gan Gwenno

Canllaw oed: 11+
Yn cynnwys iaith gref, sŵn sydyn uchel, goleuadau sy’n fflachio a mwg ffug ysgafn (‘haze’).

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr, 40 munud (yn cynnwys un egwyl)

Portland House

Cyflwynir yn

Portland House