Mae'r comedïwr arobryn Adam Kay yn rhannu detholiadau o'i ddyddiadur pan oedd yn feddyg iau gyda'r gynulleidfa mewn noson “electrifying” (Guardian) o gomedi stand-yp a cherddoriaeth.
Sioe hynod boblogaidd yng Ngŵyl Fringe Caeredin 2016, 2017 a 2018, Soho Theatre 2017, Taith y DU a'r West End yn 2018 a 2019.
Mae'r llyfr sy'n cyd-fynd, ‘This is Going to Hurt’, yn un o lyfrau mwyaf poblogaidd The Sunday Times, ac yn cael ei addasu i fod yn gyfres deledu BBC. Bydd copïau o'r llyfr ar gael i'w prynu a'u llofnodi ar ôl y perfformiad.

“Intersperses horror stories from the NHS frontline with a catalogue of sublimely silly spoof songs, and some blissfully brilliant wordplay”
“Hilarious and Heartbreaking”
Canllaw oed: 14+
Amser cychwyn: 7.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 1 awr a 10 minud