Bond in Concert

Theatr Donald Gordon

2 Mawrth 2020

Llwytho…
Gwerthu Allan

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Add to Calendar {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Bond in Concert {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-815

Bond in Concert

2 Mawrth 2020

Theatr Donald Gordon

Dathlu bron i 60 mlynedd o Bond… 

I ddathlu rhyddhau y 25ain ffilm Bond, mae Entertainers yn falch o gyflwyno Bond in Concert.

Mae Bond in Concert yn serennu band sioe fwyaf enwog y DU, “Session One” a chantorion gwadd anhygoel, mewn dathliad o’r gerddoriaeth eiconig sydd yn gysylltiedig ag ysbïwr enwoga’r byd.

Mae James Bond wedi bod yn achub y byd am dros 50 mlynedd ac mae’r amrywiaeth o gerddoriaeth thema sydd wedi’i ysgrifennu’n benodol ar gyfer pob un o’r ffilmiau Bond yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd ledled y byd.

Yn dechrau gyda'r gân thema James Bond a chyfansoddwyd gan Monty Norman, mae’r sioe hefyd yn cynnwys pob un o’r 11 cân thema Bond a gyfansoddwyd gan y cyfansoddwr Prydeinig John Barry rhwng 1963 a 1987.

Mae’r artistiaid sydd wedi ysgrifennu a pherfformio caneuon ar gyfer teitl a chredydau ffilmiau Bondyn cynnwys Duran Duran, Shirley Bassey, Carly Simon, Tom Jones, Paul McCartney – ac yn 2013 enillodd Adele y wobr Oscar cyntaf am gerddoriaeth Bond gyda’i chân wreiddiol ‘Skyfall’… a dilynodd Sam Smith yn 2016 gyda’i gân ‘Writing’s On The Wall’.

Bydd Bond in Concert yn mynd â’r gynulleidfa ar daith gerddorol trwy anturiaethau ysbïwr mwyaf poblogaidd, enwog ac oesol y byd. O ‘Dr No’ i ‘Spectre’.

Mynnwch eich diodydd fel Bond, ‘shaken not stirred’.  Does dim ffordd gwell o ddathlu’r ffilmiau eiconig na Bond in Concert.

Canllaw oed: 6+

Amser cychwyn: 7.30pm

CYNIGION AELODAU

Gostyngiad o £2. Aelodaeth. 

CYNIGION I GRWPIAU

Grwpiau 10+ gostyngiad o £2. Trefnu ymweliad grŵp.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Mae’r Hyrwyddwyr yn cadw’r hawl i newid y rhaglen.

Mae hon yn sioe deyrnged ac nid yw’n gysylltiedig ag unrhyw artist gwreiddiol/ystad/ cwmniau rheoli na sioeau tebyg.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon