Yn anffodus, mae Noson Gwaith Ar Waith 4 Ebrill wedi'i ohirio oherwydd y sefyllfa bresennol gyda coronafeirws. Byddwn yn cysylltu gydag archebwyr tocynnau yn uniongyrchol gyda mwy o wybodaeth.
Mae nosweithiau Gwaith ar Waith yn gyfle i artistiaid roi cynnig ar syniadau newydd, arbrofi gydag arddulliau gwahanol a chysyniadau newydd.
Mae’n bosib y byddant yn gofyn i chi am adborth er mwyn datblygu’r gwaith neu er mwyn gweld sut brofiad yw perfformio’u gwaith o flaen cynulleidfa fyw am y tro cyntaf.
Ym mis Ebrill eleni, rydyn ni’n cyflwyno pedair noson Gwaith ar Waith, a bydd pob noson yn cynnwys o leiaf tri darn.
Cymerwch y cyfle i wylio rhywbeth hollol newydd ac archebwch eich sedd am £1 yn unig - wedyn, dewch ag arian parod gyda chi a thalwch fel y mynnwch ar ddiwedd y noson. Bydd 100% o’r arian a godir yn mynd yn uniongyrchol i’r artistiaid.
Benji Mowbery a Hari Raelyn - Self Portrait (Teitl ar waith)
Mae Self Portrait yn sioe gerdd sy’n seiliedig ar yr arlunydd Cymreig, Gwen John.
Roedd Gwen John yn arlunydd medrus a chafodd ei esgeuluso yn ystod ei hoes oherwydd llwyddiant ei brawd, Augustus John. Bydd Self Portrait yn archwilio ei brwydr gyda hunan-barch a hunangred ar ei thaith o dde Cymru i Baris.
Bydd y gweithdy yma’n rhannu caneuon a golygfeydd sydd yn waith ar waith.
Krystal S. Lowe (Kokoro Arts) - The Yellow Wallpaper
Wrth archwilio iechyd meddwl a chanfyddiadau’r cyhoedd, triniaeth mamau sy’n dioddef o iselder ôl-enedigol a’r pwysau sy’n cael ei roi ar fenywod i lynu at rolau rhyw traddodiadol - bydd Krystal S. Lowe yn cyflwyno addasiad o’r stori fer, The Yellow Wallpaper, gan Charlotte Perkins Gilman fel gwaith theatr dawns unigol.
Sam Hickman – Larry
Sioe un-fenyw brwnt anhygoel sy’n rhannu’r uchelfannau ac iselfannau a phroblemau amrywiol dêtio. Ymunwch â Sam ar y llwyfan am gerddoriaeth wreiddiol, adloniant doniol â’i thelyn.
Mae nosweithiau Gwaith ar Waith yn rhan o’n hymrwymiad i feithrin talent yng Nghymru, darparu llwyfan i leisiau newydd a thanio meddyliau creadigol.
Canllaw oed: 14+
Amser cychwyn: 7pm
Hyd y perfformiad: Tua 1 hwr 45 munud (yn cynnwys un egwyl)