Yn anffodus, mae sioe Footloose wedi'i chanslo oherwydd y sefyllfa bresennol gyda coronafeirws. Byddwn yn cysylltu gydag archebwyr tocynnau'n uniongyrchol i drefnu ad-daliad.
Yn dilyn dwy daith a ganmolwyd i'r cymylau, a rhediad yn y West End, mae Footloose yn ôl ac yn well nag erioed o’r blaen.
Mae Ren, bachgen o’r ddinas, yn meddwl bod bywyd yn ddigon gwael pan gaiff ei orfodi i symud i ardal ddiarffordd yng nghefn gwlad America. Ond mae ei fyd yn dod i ben pan mae’n cyrraedd Bomont ac yn darganfod bod cerddoriaeth roc a dawnsio wedi eu gwahardd yno. Mae Ren yn anwybyddu’r rheolau ac, yn sydyn, mae'r dref gyfan yn chwyldroi a phawb ar eu traed.
“A Roaring Success”
“You leave feeling like you can change the world”
Yn seiliedig ar y ffilm hynod boblogaidd o’r 1980au, mae Footloose yn sioe sionc, hwyliog sy’n cynnwys rhai o dalentau cerddorol gorau’r DU. Gyda choreograffi arloesol, fodern, byddwch yn mwynhau clasuron yr 80au fel Holding out for a Hero, Almost Paradise, Let's Hear It For The Boy ac, wrth gwrs, y prif drac bythgofiadwy Footloose.
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol. Aelodaeth.
CYNIGION I U16 A MYFYRWYR
Gostyngiad o £4, perfformiadau penodol.
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £4, perfformiadau penodol. Trefnu ymweliad grŵp.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.