Priscilla Queen of the Desert

5 – 9 Mai 2020 - SIOE WEDI’I CHANSLO

Theatr Donald Gordon

Yn anffodus, mae sioe Priscilla Queen Of The Dessert wedi'i chanslo oherwydd y sefyllfa bresennol gyda coronafeirws. Byddwn yn cysylltu gydag archebwyr tocynnau yn uniongyrchol gyda mwy o wybodaeth.

Gyda chast sy’n cynnwys enillydd Strictly Come Dancing, Joe McFadden, dyma antur ddoniol tri ffrind sy’n mentro ar fws i gefn-fro Awstralia, gyda’r bwriad o lwyfannu sioe anhygoel. Drwy eu siwrne epig cawn stori dwymgalon hunan ddarganfyddiad, ehofndra a chydnabyddiaeth.

Mae hyn yn graddio 4 allan o 5 sêr

“The greatest disco anthems ever to fill a dancefloor”

The Daily Telegraph

Gyda thoreth o gliter, gwisgoedd hudolus a llond lle o blu, dyma sioe sy’n llawn clasuron, gan gynnwys y caneuon Hot Stuff, I Will Survive, I Love The Nightlife a Finally!

 

Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed) 
Nodwch, efallai bydd y cynhyrchiad yn cynnwys goleuadau sy’n fflachio (a goleuo strôb) a iaith gref.

Amser cychwyn:
Maw, Mer, Iau a Sad 7.30pm
Iau a Sad 2.30pm
Gwe 5pm a 8.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr 30 munud (yn cynnwys un egwyl)

Cynigion i Aelodau

Gostyngiad o £10 ar 5 Mai. Aelodaeth.

Cynigion i Grwpiau

Grŵpiau 10+ gostyngiad o £5. Trefnu ymweliad grŵp.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon