Paratowch, chwiorydd! Mae Sister Act, sioe gerdd boblogaidd Broadway a’r DU, yn dod i Gaerdydd yn dilyn rhediad hynod lwyddiannus yn Llundain. Wedi’i haddasu ar gyfer y 21ain ganrif, bydd y sioe’n serennu Jennifer Saunders (a enillodd BAFTA) sy’n chwarae rhan Mother Superior, a Brenda Edwards, seren ddisglair y West End (Hairspray, Chicago, Loose Women), sy’n chwarae rhan Deloris Van Cartier. Mae rhan Deloris wedi’i hail-ysgrifennu’n arbennig.
Bellach wedi’i osod yn 2021, mae’r sioe yn deyrnged arbennig i bŵer oesol cyfeillgarwch, chwaeroliaeth a cherddoriaeth. Dyma stori ddoniol y ‘diva’ disgo sy’n newid trywydd ei bywyd ar ôl bod yn dyst i lofruddiaeth. Er mwyn ei hamddiffyn, mae’r heddlu’n ei hanfon i’r unig le chaiff neb hyd iddi – lleiandy! A hithau mewn cuddwisg lleian a dan oruchwyliaeth y Mother Superior amheus, mae Deloris yn helpu ei chwiorydd newydd i ddarganfod eu lleisiau, ac yn ail-ddarganfod ei llais ei hun ar hyd ei thaith.
Gyda cherddoriaeth wreiddiol gan Alan Menken (Disney’s Aladdin, Enchanted) a enillodd wobr Tony® ac 8 gwobr Oscar® a chaneuon, a ysbrydolwyd gan gerddoriaeth Motown, enaid a disgo. Dyma donig o sioe gerdd, fydd yn eich llawenhau, ac yn dod ag atgofion melys yn ôl. Peidiwch â’i cholli.
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol. Aelodaeth.
U16 A MYFYRWYR AELODAU
Gostyngiad o £3, perfformiadau penodol.
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £3, perfformiadau penodol. Trefnu ymweliad grŵp.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.