Yn anffodus, mae sioe The Red Shoes wedi'i chanslo oherwydd y sefyllfa bresennol gyda coronafeirws. Byddwn yn cysylltu gydag archebwyr tocynnau yn uniongyrchol gyda mwy o wybodaeth.
Daw addasiad buddugoliaethus Matthew Bourne o’r ffilm chwedlonol yn ôl i’r Ganolfan ar ôl ennill dwy wobr Olivier a gwefreiddio cynulleidfaoedd a beirniaid ar draws UDA a’r DU. Chwedl o obsesiwn, meddiant a breuddwyd un ferch i fod yn ddawnswraig orau’r byd yw The Red Shoes.
Wedi’i gosod i gerddoriaeth hynod ramantus gan gyfansoddwr oes aur Hollywood, Bernard Herrmann, mae The Red Shoes yn cyflwyno offeryniaeth gan Terry Davies, dyluniadau sinematig gan Lez Brotherston, goleuo gan Paule Constable a sain gan Paul Groothuis.
“A gorgeous take on a film classic”








Canllaw Oed: 7+ (Dim plant dan 2 oed)
Yn cynnwys goleuadau strôb
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Iau & Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr (yn cynnwys un egwyl)
Cynigion i Aelodau
Gostyngiad o £10 ar 31 Mawrth. Aelodaeth.
Cynigion i grwpiau
Grwpiau 10+ gostyngiad o £5 (Maw - Iau). Trefnu ymweliad grŵp.
YSGOLION
£10 (Maw - Iau) — Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.