Yn anffodus, oherwydd y pandemig Coronafeirws ni fydd Tymor yr Haf Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn digwydd bellach.
Byddwn yn cysylltu ag archebwyr tocynnau o ddydd Llun 20 Ebrill ymlaen, gyda manylion am yr opsiynau sydd ar gael.
Gofynnwn yn garedig i chi fod yn amyneddgar. Gallwch fod yn ffyddiog y byddwn yn cysylltu â phawb sydd wedi archebu tocynnau cyn gynted â phosib – does dim angen i chi wneud unrhyw beth. Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar wrth i ni weithio drwy nifer enfawr o archebion ac e-byst.
Stravinsky | Bartók
Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno bil dwbl cyferbyniol: y stori tylwyth teg hudolus, The Nightingale a stori dywyll ac arswydus Bluebeard's's Castle, a fydd yn cael eu cyfarwyddo gan Cyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus.
Yn seiliedig ar stori tylwyth teg Hans Christian Andersen, bydd wyth o gantorion, 11 pypedwr a chast o bypedau gwych maint go iawn yn dod â The Nightingale yn fyw. Mae sgôr ysgubol Stravinsky yn ategu'r naratif ac yn arddangos gwir rym cerddoriaeth.
Dilynir hyn gan Bluebeard’s Castle, opera dywyll Bartók sy'n gweld Syr Bryn Terfel yn dychwelyd i'r Cwmni fel Y Dug Bluebeard ochr yn ochr â Michelle Deyoung fel Judith. Bydd y cynhyrchiad newydd hwn yn cynnwys set gyda thafluniadau fideo a fydd yn eich tywys i fyd dystopaidd Bluebeard's Castle lle mae llofruddiaeth a phriodas yn mynd law yn llaw.
wno.org.uk/doublebill
#WNOdoublebill
The Nightingale
Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Bluebeard’s Castle
Cenir yn Hwngareg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Hyd y Perfformiad: Bydd yr opera yn para tua dwy awr a 45 munud gydag un egwyl.
DAN 30 OED
£10 — Yn berthnasol i seddi penodol.
Cynigion yn seiliedig ar dyraniadau ac argaeledd.