Stravinsky
Mae Ymerawdwr Tsieina yn cael ei swyno gan gân yr Eos, ond nid yw cyflwyno fersiwn fecanyddol yn gallu cymryd lle'r aderyn go iawn ac mae'r Ymerawdwr yn mynd yn sâl. Dim ond pan fydd yr Eos go iawn yn dychwelyd, y mae'n sylweddoli na ellir efelychu gwir emosiwn cerddoriaeth, a chaiff ei adfer i iechyd.
Credir bod stori Hans Christian Andersen wedi cael ei hysbrydoli gan gariad annychweledig yr awdur tuag at y soprano, Jenny Lind, a oedd yn cael ei hadnabod fel "Eos Sweden". Mewn cydweithrediad â Blind Summit, y cwmni theatr bypedau rhyngwladol enwog, bydd wyth o gantorion, 11 pypedwr a chast o bypedau gwych maint go iawn yn dod â'r opera chwedlonol swynol hon yn fyw. Bydd sgôr ysgubol Stravinsky yn cael ei harwain gan Cyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus.
wno.org.uk/nightingale
#WNOnightingale
Cenir yn Rwseg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Hyd y Perfformiad: Bydd yr opera hon yn para tua 50 munud
DAN 30 OED
£10 — Yn berthnasol i seddi penodol.
DAN 16 OED
£5 — 1 tocyn plentyn gydag un oedolyn sy'n talu'n llawn.
Cynigion yn seiliedig ar dyraniadau ac argaeledd.