Yn anffodus, oherwydd y pandemig Coronafeirws ni fydd Tymor yr Haf Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn digwydd bellach.
Byddwn yn cysylltu ag archebwyr tocynnau o ddydd Llun 20 Ebrill ymlaen, gyda manylion am yr opsiynau sydd ar gael.
Gofynnwn yn garedig i chi fod yn amyneddgar. Gallwch fod yn ffyddiog y byddwn yn cysylltu â phawb sydd wedi archebu tocynnau cyn gynted â phosib – does dim angen i chi wneud unrhyw beth. Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar wrth i ni weithio drwy nifer enfawr o archebion ac e-byst.
Stravinsky
Bydd y perfformiad hwn o The Nightingale yn rhan o Ddiwrnod Darganfod Opera WNO. Am fwy o wybodaeth, ewch i wno.org.uk/operadays
Mae Ymerawdwr Tsieina yn cael ei swyno gan gân yr Eos, ond nid yw cyflwyno fersiwn fecanyddol yn gallu cymryd lle'r aderyn go iawn ac mae'r Ymerawdwr yn mynd yn sâl. Dim ond pan fydd yr Eos go iawn yn dychwelyd, y mae'n sylweddoli na ellir efelychu gwir emosiwn cerddoriaeth, a chaiff ei adfer i iechyd.
Credir bod stori Hans Christian Andersen wedi cael ei hysbrydoli gan gariad annychweledig yr awdur tuag at y soprano, Jenny Lind, a oedd yn cael ei hadnabod fel "Eos Sweden". Mewn cydweithrediad â Blind Summit, y cwmni theatr bypedau rhyngwladol enwog, bydd wyth o gantorion, 11 pypedwr a chast o bypedau gwych maint go iawn yn dod â'r opera chwedlonol swynol hon yn fyw. Bydd sgôr ysgubol Stravinsky yn cael ei harwain gan Cyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus.
Cenir yn Rwseg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Bydd yr opera hon yn para tua 50 munud