Opera Cenedlaethol Cymru: Il Trovatore

27 Chwefror, 5, 11 & 18 Mawrth 2021

Theatr Donald Gordon

Ar ôl cael ei chyhuddo o felltithio un o efeilliaid Iarll di Luna, mae merch sipsi’n cael ei llosgi'n fyw.

Mae ei merch, Azucena, yn addo talu'r pwyth yn ôl am ei marwolaeth ac yn ymddwyn yn fyrbwyll, gyda chanlyniadau trasig.

15 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r Iarll di Luna newydd yn canlyn Leonora, ond mae hithau mewn cariad â'r trwbadŵr dirgel, Manrico. Daw'r triongl cariad yn we ddryslyd o dwyll, wrth i'r stori chwarae allan trwy aberth, cenfigen, llofruddiaeth a dial.

Yn un o'r operâu gorau erioed, mae Il trovatore (‘Y Trwbadôr’) yn cynnwys sgôr fywiog sy’n cynnwys yr hynod adnabyddus, Anvil Chorus. Bydd Mary Elizabeth Williams yn dychwelyd i WNO fel Leonora yng nghynhyrchiad oesol WNO, a gafodd ei berfformio diwethaf yn 2011.

wno.org.uk/trovatore
#WNOtrovatore

Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg

Am becynnau aml-docyn, dewiswch eich sioeau a chaiff y gostyngiad ei ychwanegu yn y fasged. 

Caiff gostyngiadau eu hychwanegu i’r nifer cyffredin isaf o seddi. Os yw’r nifer o fynychwyr yn amrywio fesul cynhyrchiad, cysylltwch â ni ar 029 2063 6464.

Canllaw oed: 8+

Amser cychwyn: 7.15pm

Hyd y perfformiad:  Tua 2 hwr 35 munud (yn cynns un egwyl)

CYNIGION I GRWPIAU

Grwpiau 10+ gostyngiad o £4. Yn berthnasol i seddi penodol.

Trefnu ymweliad grŵp.

YSGOLION

£12.50 — yn berthnasol i seddi penodol. Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. 

DAN 16 OED

£5 — 1 tocyn plentyn gydag un oedolyn sy'n talu'n llawn.

Cynigion yn seiliedig ar dyraniadau ac argaeledd.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon

Perfformiadau Hygyrch

Gweld popeth

The Commitments

My Best Friend's Wedding

Grease

Opera Cenedlaethol Cymru: Il Trovatore

Six

We Will Rock You

The Lion King

The Book of Mormon

OPERA CENEDLAETHOL CYMRU 2021

Gweld popeth

Opera Cenedlaethol Cymru: Faust

Opera Cenedlaethol Cymru: Il Trovatore

Opera Cenedlaethol Cymru: Der Rosenkavalier

Opera Cenedlaethol Cymru: Migrations