Yn anffodus mae taith Joker: Live in Concert wedi’i ohirio. Mae hyn yn golygu na fydd perfformiad nos Sul 28 Mawrth 2021 yn digwydd, a bydd y dyddiad yn newid i nos Mawrth 9 Tachwedd 2021. Mae deiliaid tocynnau wedi eu symud yn awtomatig i seddi sy’n cyfateb i’r archeb wreiddiol. Gellir dod o hyd i holl fanylion eich archeb newydd drwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein.
Bydd Joker – ffilm arloesol Todd Phillips, sydd wedi ennill llu o wobrau – yn cael ei dangos i gyfeiliant cerddorfa fyw yn chwarae sgôr arobryn y cyfansoddwr Hildur Guðnadóttir am y tro cyntaf erioed, a hynny mewn digwyddiad unigryw.
Yn ganolog i’r daith emosiynol mae cymeriad Joaquin Phoenix, Arthur Fleck, yn mynd arni drwy gydol y ffilm mae sgôr swynol, hyfryd Guðnadóttir a enillodd wobr Golden Globe ac a enwebwyd am wobrau BAFTA ac Academy. Mae’r cyfuniad o synau diwydiannol ac alawon cignoeth, teimladwy, a arweinir gan y llinynnau – gydag un soddgrwth yn serennu – yn creu amwisg felancolaidd a atalnodir ag eiliadau o obaith, ac sy’n datblygu’n raddol i fod yn ferw gwyllt o densiwn anesmwyth.
Daw cerddorfa lawn â’r gerddoriaeth anhygoel yma’n fyw i greu profiad o wylio Joker sy’n ddisglair, angerddol, a chwbl newydd. Mae’r sgôr unigryw – sy’n cael ei pherfformio’n fyw – yn amlygu ymhellach bwysau emosiynol, gwead a naws portread cyfareddol Phoenix.
Cyfyngiad oed: 15+ heb eithriad
Yn cynnwys iaith gref, strôb a thrawiadau.