17 dawnsiwr, 36 golygfa, 100 cymeriad…
Rydyn ni i gyd yn hoffi cael cipolwg ar fywydau a chartrefi pobl eraill… Wrth deithio ar drên a gweld golygfeydd bychain drwy’r ffenestr, neu wrth feicio ar hyd y strydoedd ac edrych i mewn i’r cartrefi rydyn ni’n eu pasio.
Mae dawnswyr ardderchog Rambert yn ein gwahodd ni i fydoedd tra gwahanol a sefyllfaoedd rhyfeddol. Cawn gipolwg ar bobl yn ceisio byw eu bywydau, yn llywio penblethau, yn osgoi damweiniau ac yn goroesi dramâu bychain.
Mae Rooms yn ffilm theatr-ddawns hynod uchelgeisiol a berfformir yn fyw. Ambell waith mae’n absẃrd a thro arall yn ddoniol. Mae’n brydferth ac weithiau braidd yn drist. Neu efallai bod y cyfan yn hollol normal.
“Like watching a movie, immersive and absorbing, yet easily the most technically sophisticated live dance production I’ve seen since theaters closed”
Canllaw oed: 15+
Mae’r perfformiad yn cynnwys themâu aeddfed, peth noethni, cyfeiriadau at hunanladdiad a thrais yn y cartref a pheth iaith gref.
Hyd y perfformiad: Tua 55 munud
Bydd capsiynau ar gael ar gyfer y perfformiadau yma, wedi’u darparu gan Stagetext. Bydd dolen i’r capsiynau ar gael yn ystod y sioe ar dudalen llif byw bob perfformiad.
GWYBODAETH TOCYNNAU
Caiff y perfformiad ei ffrydio’n fyw ar Rambert Home Studio a chewch fynediad drwy ddefnyddio cod tocyn 16-digid alffaniwmerig unigryw. Bydd y cod yn cael ei gynnwys yn eich e-bost yn cadarnhau’r archeb, ar ôl prynu tocynnau.
Bydd gwerthiant tocynnau yn dod i ben 30 munud cyn amser cychwyn y perfformiad. Mae hyn er mwyn rhoi cyfle i chi dderbyn eich e-bost gyda’ch cod tocyn, cofrestru gyda Rambert Home Studio a pharatoi ar gyfer y perfformiad.
Mae prisiau amrywiol ar gael ar gyfer y perfformiad ar-lein yma, er mwyn i chi gael dewis eich pris yn seiliedig ar eich sefyllfa bresennol. Wrth ddewis eich pris, gofynnwn i chi ystyried faint o bobl yn eich tŷ fydd yn gwylio a faint fyddech chi fel arfer yn ei dalu wrth fynychu sioe fyw. Diolch am eich cefnogaeth.
Gall ysgolion, prifysgolion, colegau ac ysgolion dawns sydd â myfyrwyr 15 oed ac yn hŷn gael 10 tocyn am bris 7. Nid yw’r cynnig yma ar gael ar-lein. I archebu, cysylltwch â gwerthiant.grwpiau@wmc.org.uk erbyn 12pm, 26 Mawrth.
SUT A BLE I WYLIO
Nodwch fod pob sioe yn cael ei pherfformio’n fyw ac mae’n rhaid ei gwylio ar yr amser a hysbysebir. Gan fod y perfformiad yma’n berfformiad amser real a heb ei recordio ymlaen llaw, ni fedrwch ailddirwyn na oedi’r sioe.
Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n cofrestru gyda Rambert Home Studio ac yn adbrynu’ch cod tocyn cyn gynted â phosib. Drwy wneud hyn bydd cyfle i chi wylio cynnwys ychwanegol am ddim ar Rambert Home Studio a phrofi’ch gosodiadau sain cyn y perfformiad.
Gwylio’r perfformiad:
- Cofrestrwch (am ddim) ar rambert.org.uk/homestudio
- Mewnbynnwch eich cod tocyn i’ch cyfrif ar Rambert Home Studio. Gallwch wylio’n fyw ar unrhyw ddyfais ar yr amser a hysbysebir ar gyfer y perfformiad.
- Os fyddwch yn profi unrhyw anawsterau, e-bostiwch homestudio@rambert.org.uk am gymorth.
- Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch fewngofnodi ar unrhyw ddyfais, gan ddefnyddio’ch manylion cofrestru.
- Awr cyn amser cychwyn y perfformiad bydd chwaraewr llif byw Rambert yn chwarae’n fyw ac yn dangos delwedd. Bydd hwn yn gyfle i chi wirio bod eich porwr gwe yn chwarae’r fideo a’r sain heb broblem.