Mae sioe Strictly Ballroom the Musical wedi'i gohirio oherwydd y sefyllfa bresennol gyda coronafeirws. Y dyddiadau newydd fydd 29 Tachwedd - 4 Rhagfyr 2021.
Gan eich bod chi eisoes wedi archebu, mae tocynnau wedi eu symud yn awtomatig i ddyddiad a seddi sy’n cyfateb i’r archeb wreiddiol. Gellir dod o hyd i holl fanylion eich archeb newydd drwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein.
Mae Strictly Ballroom the Musical, sy’n seiliedig ar y ffenomen o ffilm arobryn fyd-eang yn dod ar daith o gwmpas y DU ac Iwerddon, ac yn serennu Kevin Clifton o Strictly Come Dancing.
Wedi'i chyfarwyddo gan y dawnsiwr, coreograffydd, cyfarwyddwr theatr a hoff feirniad teledu’r DU, Craig Revel Horwood, bydd Strictly Ballroom the Musical yn ffocstrotio ledled y DU o fis Medi 2020.
Yn dod â chast o dros 20 o berfformwyr o safon fyd-eang ynghyd, mae Strictly Ballroom the Musical yn dilyn dawnsiwr ‘ballroom’ ffroenuchel, gwrthryfelgar ifanc, Scott Hastings.
Pan mae ei arddull ddawns radical a mentrus yn colli edmygedd Ffederasiwn Awstralia, mae’n rhaid iddo ddawnsio gyda Fran, sy’n hollol newydd i fyd dawns. Gyda’i gilydd, maen nhw’n dangos eu dewrder trwy herio traddodiadau dawns a darganfod bod dim rhaid i’ch dawns fod yn ‘Strictly Ballroom’ i ennill!
Yn cynnwys caneuon hynod boblogaidd megis Love is in the Air, Perhaps Perhaps Perhaps a Time After Time, yn ogystal â nifer o ganeuon hyfryd, newydd gan artistiaid rhyngwladol poblogaidd yn cynnwys Sia, David Foster ac Eddie Perfect.
Dewch i fwynhau noson fythgofiadwy dan y belen gliter. Dyma sioe dwymgalon sy’n sicr o’ch gwefreiddio!
Canllaw oed: 7+
Amser cychwyn:
Llun – Sad 7.30pm
Iau a Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 hwr 20 minud (yn cynnwys un egwyl)
Cynigion I Aelodau
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol. Aelodaeth.
U26 a Myfyrwyr Aelodau
Gostyngiad o £4, seddi penodol.
Cynigion i grwpiau
Grwpiau 10+ gostyngiad o £4, perfformiadau penodol. Trefnu ymweliad grŵp.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.