Dyma sioe gerdd gomedi ffraeth ac anhygoel gan grëwyr South Park, Trey Parker a Matt Stone, a Bobby Lopez, cyd-awdur Avenue Q a Frozen. Dilynwn anffawd pâr o genhadwyr, sydd wedi eu danfon ar genhadaeth i le sydd mor bell o Salt Lake City ag sy’n bosib.
A hithau bellach yn gwerthu allan ar lwyfannau yn Llundain, Broadway, Gogledd America ac Awstralia, mae The Book of Mormon yn sioe benigamp sy’n boblogaidd yn fyd-eang
Canllaw Oed 14+ (dim plant dan 2 oed)
Yn cynnwys iaith gref, themâu aeddfed, goleuo strôb a chleciadau uchel
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
“THE BEST MUSICAL OF THIS CENTURY”
Hyd y Perfformiad: 2 awr 20 munud (yn cynnwys 1 egwyl)
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris drutaf).
Aelodaeth.
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £5, 20+ gostyngiad o £6, 40+ gostyngiad o £7
Ar gael Llun – Iau, (2 bris drutaf).
Trefnu ymweliad grŵp.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
HYGERCH
Os oes gennych chi unrhyw ofynion hygyrchedd sydd methu cael eu lletya ar-lein, mae croeso i chi ffonio ni ar 02920 636464 (Opsiwn 3) i archebu eich tocynnau.
Erbyn hyn, mae gofodau cadair olwyn ar gael i’w harchebu ar-lein. Ond, os ydych chi’n aelod o gynllun Hynt ac angen archebu tocyn gofalwr, bydd rhaid i chi ffonio ni.
Yn anffodus, oherwydd problemau amserlennu, mae perfformiad The Book of Mormon, 31 Hydref am 2.30pm wedi'i ganslo. Rydyn ni wedi cysylltu'n uniongyrchol â deiliaid tocynnau'r perfformiad yma. Ni effeithiwyd unrhyw berfformiad arall o The Book of Mormon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gan y newid hwn.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.