Mae The Commitments yn ddathliad hwyliog o gerddoriaeth enaid. Yn dychwelyd i deithio’r DU ac Iwerddon, 5 mlynedd ar ôl rhediad hynod lwyddiannus yn y West End, Llundain a thaith boblogaidd wedi hynny, mae The Commitments wedi’i seilio ar y ffilm glasurol arobryn a enillodd wobr BAFTA
Derbyniodd The Commitments glod feirniadol byd-eang yn dilyn y premiere byd yn Llundain a chafodd ei gydnabod fel ffenomen ac yn sioe gerdd ysgubol.
Gyda dros 20 o glasuron enaid wedi’u perfformio ar lwyfan, yn cynnwys: Night Train, Try A Little Tenderness, River Deep, Mountain High, In The Midnight Hour, Papa Was A Rolling Stone, Save Me, Mustang Sally, I Heard It Through The Grapevine, Thin Line Between Love and Hate, Reach Out, Uptight, Knock On Wood, I Can't Turn You Loose a mwy!
“Unstoppable fun A big-hearted, big night out"”
Dyma noson allan fythgofiadwy llawn hwyl a sbri.
Mae sioe gerdd The Commitments wedi’i addasu o’r nofel gan enillydd y wobr Booker ei hun, Roddy Doyle ac wedi’i gyfarwyddo gan Caroline Jay Ranger.
Stori Jimmy Rabbitte yw The Commitments, ffan gerddoriaeth dosbarth gweithiol ifanc, sy’n dod â grŵp o gerddorion a ffrindiau ynghyd i ffurfio’r band cerddoriaeth enaid gorau y mae Dulyn wedi ei gynhyrchu erioed.
“Fantastically fun”





Lluniau o’r cast blaenorol
Canllaw oed: 12+
Amser cychwyn:
Llun – Sad 7.30pm
Iau a Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr, yn cynnwys un egwyl