Oes gen ti dy gyhyrau'n barod a dy naid seren orau wedi'i berffeithio?! Os felly, mae'n amser ymuno gyda'r Trychfilod a'r Campau Campus!
Dewch i brofi hwyl yr ŵyl a chymerwch ran yn y gemau byrbwyll o dan ofal eich cyflwynwyr, y ddau griced direidus! Pwy fydd yn ennill y gystadleuaeth nofio, y pry cop neu'r wlithen?! Siwt siap fydd ar y pili pala wrth iddi geisio codi pwysau?! Ydy hi'n bosib i falwoden allu gwisgo menyg focsio?!
Llawenhewch ym miri mawr y seremoni agoriadol a chyd-ganwch Anthem Genedlaethol y Trychfilod yn y sioe lliwgar yma ar gyfer y teulu gyfan.
Crewyd gan Familia de la Noche gyda cherddoriaeth newydd gan HMS Morris ac wedi cynhyrchu mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru, Gwên o Haf Cyngor Caerdydd, Theatr Clwyd, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Articulture.
Ble yw e'n digwydd?
Mae’r sioe hon y tu allan, yn yr Amffitheatr y tu ôl i Ganolfan Mileniwm Cymru. Os ydych chi tu blaen i’n hadeilad, dilynwch y llwybr ar ochr chwith yr adeilad, ewch i fyny’r grisiau a chroeswch y ffordd wrth y groesfan pelican wrth gefn yr adeilad. Ar ochr arall y ffordd fe welwch chi fynedfa i’r maes parcio aml-lawr Q-Park; mae safle’r perfformiad ar y chwith, rhwng CMC a’r Red Dragon Centre.
Perfformiadau Cymraeg eu hiaith:
11am 12 + 14 Awst,
2pm 13 Awst + 1pm 15 Awst
Perfformiadau dwyieithog (Cymraeg a Saesneg):
2pm 12 + 14 Awst,
11am 13 Awst + 10am 15 Awst
Canllaw oed: 7+
Hyd y perfformiad: Tua 30 munud
Dyrennir seddi ar ôl cyrraedd
DIOGELWCH COVID
Rydyn ni wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith i sicrhau bod y safle yn ddiogel o ran Covid ac yn cyd-fynd â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth a’r celfyddydau perfformio. Dysgwch fwy yma.
Ar hyn o bryd, y fynedfa i mewn i’r adeilad yw drysau ochr y de, drws nesaf i’r Teras a gyferbyn â’r Pierhead.