Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
The Empire ship

Am ddim

Arddangosfa Windrush

Glanfa

6 Mehefin - 3 Gorffennaf 2022

Am ddim

Arddangosfa Windrush

6 Mehefin - 3 Gorffennaf 2022

Glanfa

Rydym wrth ein boddau'n croesawu Arddangosfa Windrush Cyngor Hil Cymru 'Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes' yma am Haf 2022 yng nghyntedd Glanfa.

Ym 1948 cyrhaeddodd yr Empire Windrush ddociau Tilbury yn Essex, yn cario dros 1,000 o deithwyr o Ynysoedd y Caribî.

Roedd y bobl hyn wedi gadael teulu a ffrindiau er mwyn ateb galwad Prydain am weithwyr wedi’r rhyfel. Dros y 40 mlynedd nesaf, dilynodd miloedd o bobl eraill ôl eu traed, ac fe wnaeth llawer ohonynt ymgartrefu yng Nghymru.

Roedd hanes cenhedlaeth Windrush yng Nghymru yn destun project hanes llafar diweddar, a gynhaliwyd gan Race Council Cymru a’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Ar gyfer y project bu aelodau o Genhedlaeth Windrush Cymru o bob cwr o’r wlad yn rhannu eu straeon am fudo a’u hatgofion o greu bywyd newydd yng Nghymru.

Mae’r arddangosfa bwerus yn cynnwys straeon dros 40 o Genhedlaeth Windrush Cymru, yn eu geiriau eu hunain. Cewch ddysgu am hanes eu teithiau i Gymru, a’r heriau o fyw mewn gwlad mor bell – fel dod o hyd i waith ac agweddau pobl tuag atynt.

Mae’r hanesion yn dangos sut mae Cenhedlaeth Windrush Cymru a’u disgynyddion wedi gwneud eu marc ym mhob agwedd o fywyd Cymru: trwy eu swyddi a’u gyrfaoedd, trwy fagu plant, a thrwy gyfrannu at ein cymunedau a’n diwylliant.

Caiff Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes ei gyflwyno gan Race Council Cymru mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, Canolfan y Mileniwm, Casgliad y Werin Cymru, Hynafiaid Windrush Cymru, a Hanes Pobl Dduon Cymru 365. Gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Choleg Gŵyr Abertawe.

Cyflwynir yn

Glanfa