Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Azadi

Arddangosfa Gaeaf gan Naz Syed

Glanfa

9 Rhagfyr 2022 – 16 Ionawr 2023

Azadi

Arddangosfa Gaeaf gan Naz Syed

9 Rhagfyr 2022 – 16 Ionawr 2023

Glanfa

Dewch i ymweld â ni y gaeaf hwn i weld Azadi, arddangosfa gan yr artist Naz Syed o Ziba Creative sy’n dathlu cymuned a diwylliant a threftadaeth Bersiaidd drwy bompomau prydferth o undod, diolchgarwch a gobaith o bedwar ban byd.

Artist gweledol cymdeithasol Cymreig ac Iranaidd yw Naz. Mae hi’n frwdfrydig dros grefftiaeth, cymuned a lledaenu caredigrwydd drwy greadigrwydd.

Archwiliwch blât ffrwythau wedi’i greu o bompomau lle y gallwch chi ddathlu bywyd llawn lliw a llawenydd fe than o’r ŵyl Bersiaidd Shab-e Yalda. ‘Noson Yalda’ yw’r noson hiraf a thywyllaf (ystyr Yaldā yw aileni’r haul) ac mae’n ddathliad o fuddugoliaeth goleuni ar dywyllwch.

Yn ystod Shab-e Yalda mae trawsnewid yn digwydd – mae’r aros ar ben, mae goleuni yn disgleirio ac mae daioni yn teyrnasu. Caiff ffrwythau a chnau eu bwyta, ac mae pomgranadau a melonau dŵr yn arwyddocaol iawn. Mae lliw coch y ffrwythau hyn yn symboleiddio arlliwiau rhuddgoch y wawr a golau bywyd.

Mae rhan o’r arddangosfa yn cysylltu â phatrymau a golau hudol saernïaeth Iranaidd, a ysbrydolwyd gan y Mosg Nasir-Ol Molk yn Shiraz, Iran, sy’n cael ei alw y mosg enfys/pinc, ac sy’n dod yn fyw gyda golau’r haul mewn caleidosgop o liwiau sy’n cael eu hadlewyrchu drwy’r patrymau mosaig prydferth. Crëwyd gan Naz mewn cydweithrediad â Kate Verity a’r gymuned.

 

Mae marwolaeth Jina Mahsa Amini wedi sbarduno ton o wrthwynebiad yn Iran. Ar ôl cael ei hysbrydoli gan y gwrthryfel yn Iran, mae Naz wedi creu portread o Mahsa mewn cydweithrediad â Consumersmith a chaiff ei chynrychioli o fewn y wal pompomau.

Mae croeso i chi ychwanegu eich pompom eich hun ynghyd â negeseuon o obaith, undod a chefnogaeth i bobl Iran sy’n dioddef anghyfiawnder ac yn ymladd dros eu rhyddid a’r menywod sy’n protestio dros hawliau dynol sylfaenol ac yn rhoi eu bywydau mewn perygl wrth wneud hynny.

Cofiwch ymweld â’n llwybr hefyd lle y gallwch chi brofi pob math o grefftiaeth a chreadigrwydd gan gynnwys pompomau protest, pompom cymunedol enfawr, wal undod a gallwch chi hyd yn oed wisgo clogyn carped hud wedi’i greu o bompomau!

DIGWYDDIAD YALDA

Ar 18 Rhagfyr bydd digwyddiad Yalda yn ardal y Glanfa rhwng 4pm a 7pm gyda cherddoriaeth fyw, DJ cerddoriaeth ffync Persiaidd, geiriau llafar, gweithdy crefftiaeth, sioe ffasiwn a mwy.

DEWCH I YMUNO Â GWEITHDY!

Yn ystod mis Rhagfyr a mis Ionawr bydd Naz yn cynnal gweithdai pompom. Mae sawl ffordd y gallwch chi gymryd rhan:

  • Ychwanegu at y pompom cymunedol enfawr fel ei fod yn dal i dyfu
  • Creu eich pompom eich hun ac ychwanegu neges o gefnogaeth i Iran a fydd yn cael ei ychwanegu at y wal undod
  • Creu eich pompom protest eich hun ac ychwanegu baner fach i godi ymwybyddiaeth o Chwyldro Iran

Bydd popeth a grëwch yn adeiladu ar y cyd dros gyfnod y gosodwaith.

Hefyd bydd gweithdai baneri creadigol gydag Art Clwb er mwyn helpu i gefnogi’r protestiadau sy’n digwydd yng Nghaerdydd dros Iran, yn addas i bawb 7+ oed.

Cynhelir y gweithdai ar y dyddiadau canlynol o 11am – 3pm: 24 Rhagfyr, 27 Rhagfyr (12pm – 3pm), 4 Ionawr, 7 Ionawr a 14 Ionawr.

Os oes gennych unrhyw wlân yr hoffech ei gyfrannu at y prosiect i’w helpu i barhau i dyfu, neu os hoffech chi gymryd rhan a chael gwybod mwy, cysylltwch â: naz@zibacreative.co.uk.

Mae’r arddangosfa hon wedi cael ei chreu mewn partneriaeth â Chanolfan Gelf Llantarnam Grange, Creative Lives, Cyngor Celfyddydau Cymru ac Age Cymru.

Hoffai Naz ddiolch i bawb yn y gymuned, gwneuthurwyr hudol y pompomau a grwpiau gan gynnwys: Llantarnam Grange, Grŵp Llesiant, Grŵp Byw gyda Dementia, Grŵp Presgripsiynu Cymdeithasol, Coffee ‘n’ Laughs, Grŵp Coffi a Chrefft yn St Gabriels, Grŵp WarmArted, Grŵp Knit and Natter Cwmfelinfach, Tîm Creadigol Ziba, Llyfrgell Torfaen, Change Makers, Fusion, Hybiau Cymunedol Casnewydd a Ffotogallery.

Am roddion caredig o wlân a phwyntiau gollwng: The Place, Glan yr Afon, Ffotogallery, Llantarnam Grange a siopau What!.

Farsi

زمستان امسال از نمایشگاه آزادی دیدن کنید. این نمایشگاه که توسط هنرمند ناز سید از (Ziba Creative) اجرا شده است و در آن از طریق پوم-پوم های زیبای اتحاد، قدردانی و امید فرهنگ و میراث ایرانی را در سراسر جهان، تجلیل می کند. ناز(Naz) یک هنرمند تجسمی پرافتخار ولزی، ایرانی و اجتماعی است. او عاشق جنبش صنایع دستی(craftivism)، اجتماع و گسترش مهربانی از طریق خلاقیت است.

از سینی میوه پوم-پوم دیدن کنید، در آنجا میتوانید به عنوان بخشی از جشن ایرانی «شب یلدا» زندگی پر از رنگ و شادی را جشن بگیرید. شب یلدا طولانی ترین و تاریک ترین شب سال است (یلدا به معنای تولد دوباره خورشید) و جشن پیروزی نور بر تاریکی است. در شب یلدا تحولی رخ میدهد - انتظار به پایان میرسد، نور میدرخشد و خوبی غالب میشود. در این شب میوه و آجیل مصرف میشود و انار و هندوانه از اهمیت ویژه ای برخوردار است. رنگ قرمز این میوه نماد رنگهای زرشکی سحر و درخشش زندگی است.

بخشی از این نمایشگاه بر الگوها و نور جادویی معماری ایرانی، الهام گرفته از مسجد نصیرالملک شیراز، ایران، که با نام های رنگین کمان یا مسجد صورتی نیز شناخته می شود، متمرکز شده است که در آن نور خورشید به شکل کالیدوسکوپی از رنگ ها میدرخشد و به دلیل الگوی موزاییکها انعکاس زیبایی ایجاد میشود. این نمایشگاه توسط «ناز» با همکاری کیت وریتی و انجمن ایجاد شد.

مرگ ژینا مهسا امینی موجی از مقاومت را در ایران برانگیخت. پرتره مهسا با الهام از قیام ایران توسط ناز و با همکاری Consumersmith ساخته شده است و در داخل دیوار پوم-پوم نمایش داده شده است. از شما دعوت میشود پوم-پوم خود را همراه با پیامهای امید، اتحاد و همبستگی با مردمی که در ایران از بی عدالتی رنج می برند و برای آزادی خود می جنگند و زنانی که برای حقوق اولیه بشری اعتراض می کنند و در این راه جان خود را به خطر میاندازند، اضافه کنید.

فراموش نکنید همچنین که از جشنواره ما دیدن کنید، جایی که می توانید انواع خلاقیت و مهارت از جمله پوم-پوم های اعتراضی، پوم-پوم های بزرگ، دیوار وحدت را ببینید و حتی می توانید یک شنل فرش جادویی پوم-پوم بپوشید!

بیاید و در یک کارگاه شرکت کنید!

ناز در سراسر دسامبر و ژانویه میزبان کارگاه های پاپ آپ پوم-پوم خواهد بود. از چند طریق می توانید در آن شرکت کنید و مشارکت کنید:

● برای حفظ رشد آن، پوم-پوم را به جامعه وسیع اضافه کنید

● پوم-پوم خود را بسازید و پیام همبستگی باایران را به آن اضافه کنید، به دیوار وحدت اضافه خواهد شد.

● پوم-پوم اعتراضی خود را بسازید و یک بنر کوچک برای افزایش آگاهی برای انقلاب ایران اضافه کنید

هر چیزی که ایجاد می کنید در طول زمان نصب به صورت جمعی ساخته میشود.

همچنین کارگاههای تبلیغاتی خلاقانه با Art Clwb برای کمک به حمایت از اعتراضاتی که در کاردیف برای ایران انجام میشود، برگزار خواهد شد.

مناسب برای همه افراد بالای 7 سال.

شنبه 24 دسامبر از 11 صبح تا 3 بعد از ظهر

سه شنبه 27 دسامبر از 11 صبح تا 3 بعد از ظهر

چهارشنبه 4 ژانویه از 11 صبح تا 3 بعد از ظهر

شنبه 7 ژانویه از 11 صبح تا 3 بعد از ظهر

شنبه 14 ژانویه از 11 صبح تا 3 بعد از ظهر

اگر پشمی دارید که میخواهید برای کمک به توسعه پروژه آن را اهدا کنید، یا اگر میخواهید در آن فعالیت داشته باشید و یا میخواهید اطلاعات بیشتری کسب کنید، لطفاً به آدرس: naz@zibacreative.co.uk ایمیل بزنید.

 

جشن یلدا

در 18 دسامبر مراسم شب یلدا در منطقه گلانفا ما بین ساعت 15 تا 19 با اجرای موسیقی زنده، یک دی جی موسیقی فانک فارسی، سخنرانی، کارگاه جنبش هنر دستی، نمایش مد و غیره برگزار می شود.

این نمایشگاه با مشارکت مرکز هنری Llantarnam Grange، Creative Lives، شورای هنر ولز و Age Cymru ساخته شده است.

ناز مایل است از همه افراد جامعه، سازندگان و گروه های جادویی پوم پوم تشکر کند، از جمله: Llantarnam Grange, Wellbeing Group, Living with Dementia Group, Social Prescribing Group, Coffee ‘n’ Laughs, Coffee and Craft Group at St Gabriels, WarmArted Group, Cwmfelinfach Knit and Natter Group, Ziba Creative Team, Torfaen Library, Change Makers, Fusion, Newport Community Hubs and Ffotogallery.

برای اهدای پر مهر پشم و امتیاز: The Place, The Riverfront, Ffotogallery, Llantarnam Grange and What! stores

Cyflwynir yn

Glanfa