Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Bring It On

WEDI’I GANSLO

Theatr Donald Gordon

Yn anffodus, oherwydd cansladau yn sgil Covid, mae holl berfformiadau taith Bring It On wedi’u canslo.

Ar ran pawb yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a chast a chriw Bring It On, ymddiheurwn am y siom ac am unrhyw anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi.

Mae Amber Davies a Louis Smith yn ymuno â chast BRING IT ON, y sioe hynod boblogaidd sy’n troelli’r holl ffordd i’r DU o Broadway.

Wedi’i hysbrydoli gan y ffilm o’r un enw, mae Bring It On The Musical yn mynd â chi ar daith fywiog, egniol sydd yn taclo cyfeillgarwch, cenfigen, brad a maddeuant - yn llawn coreograffi a thriciau ffrwydrol.

Dylai Campbell, capten y tîm sydd newydd ei choroni, a’i ffyddloniaid fod yn dechrau eu blwyddyn olaf fwyaf ‘cheertastic’ yn Truman High School. Ond pan mae rhaid iddi symud i’r ysgol gyfagos, Jackson High, mae Campbell yn ofni bod ei bywyd wedi dod i ben. Er hyn, mae cyfeillgarwch annhebygol yn catapyltio Campbell yn ôl i ddadlau â chriw pwerus a’r awydd i gyflawni’r amhosib.

Mae Bring it On wedi’i gynhyrchu gan Selladoor Productions (Flashdance, Avenue Q) a’i hysgrifennu gan enillwyr gwobrau Tony Lin-Manuel Miranda (Hamilton), Jeff Whitty (Avenue Q), Tom Kitt (Grease: Live) gyda geiriau’r caneuon gan Amanda Green (High Fidelity).

Canllaw oed: 10+ (dim plant dan 2 oed)

Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Amser cychwyn: 
Maw – Sad 7.30pm
Mer a Sad 2.30pm

Cynigion I Aelodau

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (ar y 2 bris drutaf). Aelodaeth. 

U16 a Myfyrwyr Aelodau

Gostyngiad o £4, Maw - Iau (ar y 2 bris drutaf). 

CYNIGION I GRWPIAU

Grwpiau 10+ gostyngiad o £4, (ar y 2 bris drutaf). Trefnu ymweliad grŵp.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon