Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Chwarae Opera YN FYW

13 Mawrth 2022

Theatr Donald Gordon

Mae’n bleser gan WNO gyflwyno Chwarae Opera YN FYW, yn dilyn llwyddiant y gyfres ar-lein yn 2020.

Wedi’u cyflwyno gan Tom Redmond, mae’r cyngherddau bywiog a hygyrch hyn yn archwilio opera a cherddoriaeth glasurol mewn modd rhyngweithiol sy’n rhoi adloniant, gyda cherddoriaeth y byddwch yn ei hadnabod o fyd ffilm, teledu a’r llwyfan.

Bydd Tom yn eich arwain drwy’r rhaglen gyda ffeithiau hwyliog a sesiynau cyd-ganu, yn eich cyflwyno i gantorion WNO ac aelodau o Gerddorfa WNO ac yn dweud mwy wrthych am y darnau sy’n cael eu perfformio.

Ymunwch â ni cyn y perfformiad i gymryd rhan yn ein gweithgareddau teuluol rhad ac am ddim o 1pm hyd nes i’r llen godi.

#WNOplayopera

Amser cychwyn: Sul 3pm

Hyd y perfformiad: Tua 1 awr a 40 munud (yn cynnwys un egwyl)

CYNIGION I'R RHEINY DAN 16 OED

Tocyn am £7.50 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Rydyn ni wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith er mwyn sicrhau bod ein lleoliad yn Covid-ddiogel ac yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon