Eisiau dechrau gyrfa yn y diwydiant ffilm a theledu, neu’n chwilfrydig am y cyfleoedd y gallai byd y cyfryngau eu cynnig?
Os ydych chi’n dymuno rhoi hwb i’ch sgiliau presennol, neu am ddysgu mwy am ddiwydiant y cyfryngau, yna mae’r cwrs chwech wythnos am ddim yma’n berffaith i chi.
Mae diwydiant ffilm a theledu Cymru yn fwy prysur nag erioed, ac mae’n cynnig mwy a mwy o gyfleoedd gwaith. Sefydliad sy’n ceisio sicrhau bod gan y cynyrchiadau yma griw ffilm heddiw, ond yn bwysicach fyth yn y dyfodol, yw Screen Alliance Wales (SAW).
Ar y cwrs yma, byddwch chi’n cael arweiniad ar elfennau allweddol i wella eich sgiliau creu ffilm ar draws sawl lefel gydag un o Reolwyr Hyfforddi SAW, Rhys Bebb.
Boed chi’n newydd i’r sin ac eisiau dysgu mwy, neu os ydych chi wedi creu eich cynnwys eich hunan yn y gorffennol, bydd y sesiynau yma’n gwella eich sgiliau, waeth beth yw eich profiad!
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn trafod agweddau allweddol ar ddiwydiant y cyfryngau, gan ddechrau gyda sgiliau camera, ond byddwch hefyd yn dysgu am sgiliau defnyddiol eraill fel ôl-gynhyrchu, golygu a marchnata.
Bydd cael y mewnwelediad yma yn rhoi dealltwriaeth i chi o’r hyn sy’n rhan o greu cynhyrchiad teledu, ac o bosib yn eich gwneud chi’n fwy cyflogadwy ym myd y cyfryngau.
I BWY MAE’R RHAGLEN?
Mae’r cwrs yn agored i unrhyw un 14 – 25 oed o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru.
PRYD?
Bob dydd Llun, 4.30pm – 6.30pm dros chwe wythnos yn dechrau 28 Chwefror 2022.
Mae chwe sesiwn i’r cwrs yma, ar y dyddiadau canlynol: 28 Chwefror, 7 Mawrth, 14 Mawrth, 21 Mawrth, 28 Mawrth, a 4 Ebrill, felly bydd angen i chi fynd i bob un. Ychwanegwch un tocyn i’ch basged er mwyn archebu lle ar y cwrs cyfan.
Am ein cyrsiau Llais Creadigol
Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’u diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.
Ariennir y gweithgaredd hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.