Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
A dancer on stage

Dawns

Byddwch yn greadigol am ddim

Canolfan Mileniwm Cymru

13 Medi – 18 Hydref 2022

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Dawns {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-1517

Dawns

Byddwch yn greadigol am ddim

13 Medi – 18 Hydref 2022

Canolfan Mileniwm Cymru

Ydych chi rhwng 14 a 19 oed ac yn ystyried hyfforddi i fod yn ddawnsiwr?

Ar y cwrs chwe wythnos hwn byddwch chi'n dysgu am y llwybrau i'r proffesiwn dawns a sut i baratoi ar gyfer hyfforddiant dawns. 

Byddwch chi'n cael cyfle i ddatblygu eich ymarfer fel artist a darganfod pwy ydych chi a pha fath o artist ydych chi am fod. Byddwch chi'n cael cyfleoedd i archwilio creadigrwydd fel unigolyn ac fel tîm ac ar ddiwedd y cwrs, os hoffech chi, byddwch chi'n gallu perfformio eich gwaith yn ein gŵyl gelfyddydol ryngwladol, Llais.

I BWY MAE'R RHAGLEN?

Mae ein cyrsiau yn agored i unrhyw un rhwng 14 a 19 oed o bob cefndir o bob rhan o Gymru ac maent yn lefel mynediad, wedi'u hanelu at bobl chwilfrydig, dechreuwyr neu'r rhai sydd am adnewyddu eu sgiliau.

I sicrhau eich lle ar ein cwrs am ddim, cofrestrwch.

PRYD?

Bob dydd Mawrth, 5pm –7pm dros chwe wythnnos yn dechrau ar 13 Medi 2022.

Mae chwe sesiwn i'r cwrs yma, ar y dyddiadau canlynol: 13 Medi, 20 Medi, 27 Medi, 4 Hydref, 11 Hydref a 18 Hydref a bydd angen i chi fynd i bob un. Ychwanegwch un tocyn at eich basged er mwyn archebu lle ar y cwrs cyfan.

Os yw'r cwrs hwn wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.

EIN CYRSIAU LLAIS CREADIGOL

Rhaglen unigryw yw Llais Creadigol sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc archwilio'u diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.

Ariennir y gweithgaredd hwn gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru