Mae FLIGHT yn brofiad sain 360 gradd bywiog ac ymdrochol sy’n digwydd mewn tywyllwch llwyr mewn cynhwysydd cludiant 40 troedfedd.
Mae’r tu mewn yn union yr un peth â chaban economi Airbus 320 a dros 30 munud bydd y profiad yn archwilio’r Dehongliad Sawl Byd o fecaneg gwantwm, gan dywys aelodau’r gynulleidfa drwy ddau fyd, dau realiti a dau ganlyniad posibl i’w taith. Mae sawl byd lle mae’r awyren hon yn glanio’n ddiogel…
Boneddigion a boneddigesau, hoffem dynnu eich sylw at yr arddangosiad diogelwch ar yr awyren a gofynnwn i chi wrando.
Os byddwn yn colli gwasgedd yn y caban yn sydyn, sy’n annhebygol, caiff senarios gwahanol eu darparu. Caiff perthnasau agosaf eu darparu.
Caiff pwdinau ychwanegol eu darparu. Gobennydd ychwanegol. Trwmpedau a gongiau. Nid yw’r Nefoedd nac Uffern yn sicr. Nid ydym yn gyfrifol am eich cyrchfan terfynol.
Mae’r Dehongliad Sawl Byd o fecaneg gwantwm yn cynnig bod yr holl ganlyniadau posibl a allai ddigwydd yn cymryd lle mewn bydoedd di-rif o debygrwydd amrywiol.
Efallai bod rhywfaint o gysur o wybod ni waeth pa mor wael yw’r dewisiadau rydych chi wedi’u gwneud, mae fersiwn ohonoch chi sydd wedi gwneud rhai gwell ac sy’n ddioddef llai o ofid a chywilydd.
“Absolutely unsettling. The sound and production design are both excellent.”
Amseroedd agor:
27 – 31 Hydref 12pm – 3pm, 5pm – 8pm
2 – 6 Tachwedd 12pm – 3pm, 5pm – 8pm
Bydd y profiad yn rhedeg unwaith yr awr. Ni chaniateir hwyrddyfodiaid.
Hyd y profiad: 30 munud
Cyfyngiad oedran: 14+
Rhaid bod unrhywun dan 16 fod yng nghwmni oedolyn.
Rhybudd am Sbardunau: Bydd y profiad mewn tywyllwch llwyr ac mae’n bosibl na fydd yn addas i bobl sydd â chlawstroffobia.