Ymunwch â Ndidi John, un o'n Cymdeithion Creadigol ar gyfer y cwrs chwe wythnos hwn sy'n agored i bobl ifanc llawn creadigrwydd ond yn ansicr am yr hyn y hoffent wneud...
Byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i'ch llais, eich creadigrwydd, eich mynegiant. Bydd y cwrs yn eich helpu i chwilio a dod o hyd i'ch cilfach. Felly os ydych chi am fod yn ganwr, actor, dawnsiwr neu awdur, dyma yw'r cwrs i chi!
“Looking to unleash your creative flare,
Try something new, but you don't know where?
Can't put your finger on what you want to do,
But know that it's there within you?
The time is now for you to explore,
Act, write, dance and so much more,
Mash up a scene as we collaborate.
Come along and Let's Create!”
I BWY MAE’R RHAGLEN?
Mae’r cyrsiau’n agored i unrhyw un 14 – 25 oed o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru.
PRYD?
Bob dydd Iau, 5pm – 7pm dros chwe wythnos, gan ddechrau ar 20 Ionawr 2022.
Unwaith i chi gofrestru byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am y cwrs.
Cynhelir chwe sesiwn ar y dyddiadau canlynol: 20 Ionawr, 27 Ionawr, 3 Chwefror, 10 Chwefror, 17 Chwefror a 24 Chwefror a bydd angen i chi fynychu bob un. Ychwanegwch un tocyn i'ch basged i archebu'ch lle ar y cwrs cyfan.
Cyfyngiad oedran: 14 – 25 oed
YNGLYN Â’N CYRSIAU LLAIS CREADIGOL
Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw chwe wythnos o hyd sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’i diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.
DIOGELWCH COVID
Bydd y cyrsiau hyn yn cael eu cynnal mewn grwpiau llai i ganiatáu cadw pellter cymdeithasol, gyda mesurau diogelwch Covid ar waith drwy gydol y cwrs. Anogir yn gryf i bawb sy'n cymryd rhan gymryd prawf llif unffordd cyn cyrraedd.
Cyllidwyd y gweithgaredd hwn gan grant Cyngor Celfyddydau Cymru.