Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Dosbarth Meistr Clyweliadau

Cyfle creadigol am ddim

Canolfan Mileniwm Cymru

Bob dydd Mawrth, 7 Mehefin – 12 Gorffennaf 2022

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Dosbarth Meistr Clyweliadau {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-1427

Dosbarth Meistr Clyweliadau

Cyfle creadigol am ddim

Bob dydd Mawrth, 7 Mehefin – 12 Gorffennaf 2022

Canolfan Mileniwm Cymru

Ydych chi'n awyddus i hyfforddi fel actor? Ydych chi ar fin dechrau'r broses o wneud ceisiadau i ysgolion drama am y tro cyntaf?

Neu ydych chi eisoes wedi clyweld yn y gorffennol ac yn bwriadu ail-glyweld eleni? Wel, dyma gwrs i chi.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i gynorthwyo pobl ifanc rhwng 17 a 25 oed sydd am wneud cais i ysgolion drama a conservatoires yn y DU.

Bydd y cwrs yn cael ei arwain gan yr actor Gymreig Billy McCleary. Hyfforddodd Billy yn y Royal Central School of Speech and Drama yn Llundain ac mae'n Gydymaith Ifanc gyda Theatr na nÓg.

Bydd y cwrs paratoi hwn yn cynnig amrywiaeth o weithdai ymarferol i chi sy'n canolbwyntio ar eich arfogi â'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer eich clyweliadau.

Cewch gyfle i ennill profiad drwy weithdai technegol mewn llais, ffisegoliaethu a datblygu cymeriad, a defnyddio’r gwersi yn eich monologau, gan orffen â ffug glyweliad o flaen panel diwydiant i gydgrynhoi’r sgiliau a ddysgwyd.

Rhoddir canllawiau drwy gydol y cwrs ar eich deunydd clyweliad, y ffordd orau o gyflwyno'ch hun yn yr ystafell glyweld ac unrhyw feysydd i’w datblygu.

I BWY MAE’R RHAGLEN?

Mae’r cyrsiau’n agored i unrhyw un 17 – 25 oed o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru.

PRYD?

Bob dydd Mawrth, 5pm – 7pm dros chwe wythnos yn dechrau 7 Mehefin 2022.

Mae chwe sesiwn i’r cwrs yma, ar y dyddiadau canlynol: 7 Mehefin, 14 Mehefin, 21 Mehefin, 28 Mehefin, 5 Gorffennaf a 12 Gorffenaf, felly bydd angen i chi fynd i bob un. Ychwanegwch un tocyn i’ch basged er mwyn archebu lle ar y cwrs cyfan.

AM EIN CYRSIAU LLAIS CREADIGOL

Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’u diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.

Ariennir y gweithgaredd hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru