Byddwch yn barod i gael eich swyno a’ch cyfareddu gan y Dreamgirls anhygoel ar lwyfan Donald Gordon.
Dewch i ’nabod The Dreams – Effie, Lorrell a Deena – tair cantores ifanc, dalentog yn y 1960au cythryblus ar drobwynt pwysig yn hanes cerddoriaeth Americanaidd. Ymunwch â’r ffrindiau ar eu taith anturus drwy gyfoeth ac enwogrwydd y byd cerddoriaeth, a gwyliwch wrth i’w cyfeillgarwch gael ei drethu i’r eithaf.
Yn syth o’r West End, gyda’r caneuon clasurol And I Am Telling You I’m Not Going, Listen, I Am Changing ac One Night Only, dyma sioe gerdd ysblennydd sy’n cyflwyno stori fythgofiadwy a lleisiau anhygoel.
“Dazzling. A lavish musical that's at all times exhilarating”
“A glittering tour de force of disco and soul”
Bydd Dreamgirls yn serennu Nicole Raquel Dennis fel Effie White gyda Sharlene Hector yn perfformio’r rôl eiconig mewn rhai perfformiadau, Natalie Kassanga fel Deena Jones, Paige Peddie fel Lorrell Robinson, Dom Hartley-Harris fel Curtis Taylor Jr., Brandon Lee Sears fel Jimmy Early, Shem Omari James fel C.C. White, Jo Servi fel Marty a Brianna Ogunbawo fel Michelle Morris.
Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed)
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 35 munud (yn cynnwys un egwyl)
Amser cychwyn:
Llun - Sad 7.30pm
Iau ac Sad 2.30pm
CYNIGION AELODAU
Gostyngiad o £10 ar gyfer 19 Ebrill (ar y 2 bris drutaf). Aelodaeth.
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £4, Llun – Iau (ar y 2 bris drutaf). Trefnu ymweliad grŵp.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Rydyn ni wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith er mwyn sicrhau bod ein lleoliad yn Covid-ddiogel ac yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.