Eisiau gyrfa ym maes gwisgoedd? Rhowch gynnig ar ddylunio gwisgoedd cyfnod a chyfoes, o'r cyfeiriadau cymeriad cyntaf hyd at gynllun gwisgoedd gorffenedig.
Ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu sut i ddylunio ar gyfer theatr a ffilm, darganfod sut mae'r diwydiant yn gweithio a darganfod y llwybrau gorau i mewn iddo.
Gyda 15 mlynedd o brofiad dylunio gwisgoedd o dan ei gwregys, bydd y dylunydd gwisgoedd llawrydd Hannah Wolfe wrth law i'ch tywys. Mae gan Hannah gyfoeth o brofiad ac mae wedi cynllunio ar gyfer opera, theatr, pantomeim, theatr gerdd a ffilm.
I BWY MAE’R RHAGLEN?
Mae’r cyrsiau’n agored i unrhyw un 14 – 25 oed o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru.
PRYD?
Bob dydd Llun, 4.30pm – 6.30pm dros chwe wythnos yn dechrau 16 Mai 2022.
Mae chwe sesiwn i’r cwrs yma, ar y dyddiadau canlynol: 16 Mai, 23 Mai, 30 Mai, 6 Mehefin, 13 Mehefin, a 20 Mehefin felly bydd angen i chi fynd i bob un. Ychwanegwch un tocyn i’ch basged er mwyn archebu lle ar y cwrs cyfan.
AM EIN CYRSIAU LLAIS CREADIGOL
Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’u diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.
Ariennir y gweithgaredd hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.