Cymerwch eich cam cyntaf fel dylunydd gemau, adeiladwr byd, a pherfformiwr dychmygus, yn y cwrs cyflwyno hwn ar gemau bwrdd chwarae rôl.
Dysgwch a chwaraewch y gemau sydd wedi lledaenu drwy’r byd. Profwch y genre gemau adrodd straeon cydweithredol, dysgwch y sgiliau a'r hyder i chwarae, rhedwch a haciwch eich gemau eich hun.
Darganfyddwch sut y gall chwarae rôl feithrin eich hyder, eich creadigrwydd, eich llythrennedd a'ch sgiliau perfformio. Yn cael ei redeg gan y creadigwr digidol, dylunydd gemau a hwylusydd o Gymru, Tom Burmeister o PlayFrame.
Ydych chi o hyd wedi bod â diddordeb mewn rhoi cynnig ar gêm chwarae rôl ond heb wybod ble i ddechrau? Ydych chi am redeg eich gemau eich hun fel Meistr Gemau? Ydych chi'n awyddus i wybod am y sîn RPG indie ffyniannus sydd â fawr dim rheolau?
Dros chwe wythnos byddwch yn darganfod ac yn chwarae gwahanol systemau gemau, yn creu cymeriadau, yn datblygu ac yn prawf-chwarae cyfrangau gwefreiddiol, ac yn dod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i'ch rhoi ar ben ffordd yn yr arfer creadigol anhygoel hwn.
P'un a ydych chi'n hollol newydd i'r sîn neu'n adroddwr straeon profiadol, yn berfformiwr neu'n ddylunydd gemau uchelgeisiol, mae croeso i bawb wrth ein bwrdd.
I BWY MAE’R RHAGLEN?
Mae’r cyrsiau’n agored i unrhyw un 14 – 25 oed o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru.
PRYD?
Bob dydd Mawrth, 4.30pm – 6.30pm dros chwe wythnos, yn cychwyn 18 Ionawr 2022.
Unwaith i chi gofrestru byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am y cwrs.
Cynhelir chwe sesiwn ar y dyddiadau canlynol: 18 Ionawr, 25 Ionawr, 1 Chwefror, 8 Chwefror, 15 Chwefror and 22 Chwefror, a bydd angen i chi fynychu bob un. Ychwanegwch un tocyn i'ch basged i archebu'ch lle ar y cwrs cyfan.
Cyfyngiad oedran: 14 – 25 oed
YNGLYN Â’N CYRSIAU LLAIS CREADIGOL
Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw chwe wythnos o hyd sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’i diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.
DIOGELWCH COVID
Bydd y cyrsiau hyn yn cael eu cynnal mewn grwpiau llai i ganiatáu cadw pellter cymdeithasol, gyda mesurau diogelwch Covid ar waith drwy gydol y cwrs. Anogir yn gryf i bawb sy'n cymryd rhan gymryd prawf llif unffordd cyn cyrraedd.
Cyllidwyd y gweithgaredd hwn gan grant Cyngor Celfyddydau Cymru a'r Loteri Genedlaethol.