Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

ANAGRAM yn cyflwyno

GOLIATH: Playing With Reality

Profiad realiti rhithwir

Bocs

26 Medi – 22 Hydref 2022

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London GOLIATH: Playing With Reality {{::on_sale_date.label}} Bocs MM/DD/YYYY 15 event-1501

ANAGRAM yn cyflwyno

GOLIATH: Playing With Reality

Profiad realiti rhithwir

26 Medi – 22 Hydref 2022

Bocs

Ymunwch ag Echo (a leisiwyd gan Tilda Swinton) yn y profiad VR hwn a fydd yn eich tywys drwy realitiau amrywiol Goliath – dyn sydd wedi treulio blynyddoedd wedi’i ynysu mewn sefydliadau seiciatrig – ond sy’n dod o hyd i gysylltiadau mewn gemau i nifer o chwaraewyr.

Yn cyfuno deialog ddidwyll, delweddau gafaelgar a rhyngweithiadau symbolaidd, gallwch wau drwy fydoedd amrywiol i ddatgelu stori deimladwy Goliath.

Mae’r profiad wedi’i greu gan Anagram, sef y tîm a greodd The Collider a Door into the Dark. Maen nhw wedi ennill gwobr Storyscapes Gŵyl Ffilmiau Tribeca 2015, gwobr Celf Ymdrochol Sandbox 2019, ac roedden nhw’n rhan o’r VR gorau yn 2019 yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Fenis.

The story is about connection in our present world and by making GOLIATH, we hope to achieve a better understanding of the social role of online video games in the lives of people who have been marginalised by society.

Barry Gene Murphy a May Abdalla, CYFARWYDDWYR

Amseroedd agor:
Llun – Sadwrn 11am – 7pm
Sul 11am – 4pm
Bydd y profiad yn rhedeg unwaith yr awr.

Hyd y profiad: 25 munud

Canllaw oedran: 13+
Rhaid bod unrhywun dan 16 fod yng nghwmni oedolyn.

Hygyrchedd: Mae Goliath wedi’i gynllunio fel profiad sefyll ond gellir ei brofi ar eich eistedd hefyd. Gofynnwch i aelod o’r tîm os byddai’n well gennych eistedd.

Rhybuddion: Iaith anweddus. Yn cynnwys themâu sy’n ymwneud â sgitsoffrenia.

BETH YW PROFIAD REALITI RHITHWIR?

Realiti rhithwir (VR) yw’r defnydd o dechnoleg gyfrifiadurol i greu byd efelychiadol. Mae gwesteion yn gwisgo penwisg gyda chlustffonau integredig dros eu clustiau.

OES ANGEN ARCHEBU LLE?

Gallwch archebu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer y profiad am ddim hwn i sicrhau lle, neu ddod draw ar y dydd.

Mae lle i 6 o bobl ym mhob sesiwn.

Mynediad olaf am 7pm Llun - Sad, 4pm Sul.

OES ANGEN I MI DDOD AG UNRHYWBETH?

Gellir gwisgo sbectol o dan y benwisg VR ond efallai bydd yn fwy cyfforddus i chi wisgo lensys cyffwrdd neu beidio â gwisgo’ch sbectol yn ystod y profiad.

BETH YW’R MESURAU IECHYD A DIOGELWCH?

Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn profi unrhyw ymatebion negyddol i Realiti Rhithwir (VR). Fodd bynnag, gall VR fod yn ddryslyd ar gyfer unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd ag amhariadau clywedol neu weledol, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, salwch teithio neu lewygu.

Os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych reoliadur y galon, siaradwch â’ch meddyg teulu cyn cymryd rhan.

Bydd hwyluswyr wedi’u hyfforddi wrth law i roi cymorth ac arweiniad yn ystod y profiad os bydd angen.

Rydyn yn glanhau a diheintio’r holl offer, gan gynnwys penwisgoedd a chlustffonau, yn drylwyr â weipiau gwrthfacteria o safon ysbyty a pheiriant UV cyn pob defnydd. Gofynnir i chi ddefnyddio’r diheintydd dwylo a ddarperir wrth gyrraedd.

Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad, ac ni argymhellir VR i bobl o dan 13 oed.

Ni chanteir babis mewn gwregys yn y profiad.

Ni chanteir i unrhyw westeion sy’n cyrraedd ar gyfer y profiad gymryd rhan dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

CYDNABYDDIAETHAU

Mae GOLIATH: PLAYING WITH REALITY yn waith newydd gan Anagram, mewn cyd-gynhyrchiad gyda Floréal Films.

Mae wedi cael ei greu gyda chymorth Oculus VR for Good; the British Film Institute (BFI) sy’n dyfarnu arian gan y Loteri Genedlaethol; Creative XR, Digital Catapult ac Arts Council England; CNC a StoryFutures Academy.

Wedi’i ddatblygu diolch i La Biennale di Venezia – Biennale College Cinema VR.

A VR headset resting on the floor with neon lights in the background

Cyflwynir yn

Bocs